Gwyliwch: Yr heddlu'n dal dyn gyda chyllell yn Llangefni
Gwyliwch: Yr heddlu'n dal dyn gyda chyllell yn Llangefni
Mae dyn wedi ei garcharu am 26 wythnos ar ôl cario cyllell yng nghanol tref ar Ynys Môn.
Fis diwethaf, cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw wedi pryderon gan drigolion yn Llangefni am ddyn yn cario cyllell yn y dref.
Daeth swyddogion o hyd i’r dyn ac fe ddefnyddiwyd dyfais ‘taser’ ar y dyn wrth iddo geisio ffoi.
Cafodd ei gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, ac fe gafodd ei ddedfrydu’n ddiweddarach i 26 wythnos o garchar.
Fe ddigwyddodd hyn yn ystod Ymgyrch Spectre, sef ymgyrch genedlaethol dros gyfnod o wythnos gyda'r bwriad o fynd i'r afael â throseddau cyllyll.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis: "Hoffwn ddiolch i'r rhai a wnaeth adrodd eu pryderon am y dyn hwn.
"Byddwn yn ymateb ar unwaith i adroddiadau am unrhyw un sydd yn meddu ar arfau yng nghanol ein trefi a'n cymunedau.
"Nid yw cario cyllell yn eich amddiffyn chi - mae'n eich rhoi chi a'r rhai o'ch cwmpas mewn mwy o berygl o niwed.
"Rwy'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am unigolion sydd â chyllyll neu arfau eraill i adrodd hyn i'r heddlu neu yn ddienw trwy Crimestoppers."