Cymuned yn Sir Gâr yn dod at ei gilydd i helpu teulu menyw yn Jamaica

Natalie a theulu yn Jamaica

Mae menyw o Sir Gâr wedi dweud ei bod yn teimlo’n hynod o ffodus i fod yn rhan o’i chymuned, ar ôl i bobl leol ddod at ei gilydd er mwyn rhoi cymorth dyngarol i’w theulu yn Jamaica. 

Mae aelodau o deulu Natalie Jones o Sanclêr yn parhau i ddioddef yn sgil y difrod a achoswyd gan Gorwynt Melissa, a darodd y wlad ym mis Hydref. 

Roedd arbenigwyr wedi rhybuddio mai dyma oedd y corwynt mwyaf pwerus erioed i daro’r wlad, a bu farw degau o bobl o ganlyniad i rym y storm. 

Mae teulu Natalie, sy’n byw yn ardal Santa Cruz a phentref Porus, Manceinion, yn Jamaica yn parhau i wynebu heriau yn eu bywydau bob dydd yn sgil yr holl ddifrod. 

Gyda chymorth Capel Bethlehem Newydd a thrigolion lleol Sanclêr, fe fydd dwy gasgen yn llawn nwyddau yn cael eu cludo ar long i Jamaica yn y dyddiau nesaf. 

Image
Natalie a'i theulu
Natalie gyda'i theulu yn Jamaica

“Fi’n teimlo rili lwcus i byw lle ydan ni, bod y cymuned mor barod i ymestyn allan i gwlad arall,” medd Natalie wrth siarad â Newyddion S4C

“Mae gen ti pobl maen nhw erioed wedi cwrdd – mae jyst y cariad a’r cyfeillgarwch, mae’n anhygoel. 

“Mae’n hollol lyfli, neshi ddim gofyn am help rili. Yr unig beth neshi dweud oedd os mae rhywun eisiau helpu… dwi’n anfon bareli i teulu fi. 

“Do’n i ddim yn disgwyl yr holl arian a gymaint o stwff maen nhw wedi rhoid.”

Image
Casgen

'Difrod'

Dywedodd Natalie eu bod wedi llwyddo i gasglu dwywaith yr hyn yr oedd hi’n ddisgwyl ei anfon i’w theulu yn dilyn yr holl gymorth.

“Oddan ni’n bwriadu cael un barel i’r teulu rhannu ond oherwydd yr help ‘da ni medru anfon dau,” esboniodd. 

Roedd yn rhaid casglu amrywiaeth o eitemau gwahanol gan fod pobl o bob oedran wedi eu heffeithio – gan gynnwys plant mor ifanc ag un oed, yn ogystal â hen ewythr Natalie, Cecil, sy'n 94 oed. 

Cousins mam sydd ‘na a brawd grandma fi a fo sy’n ddall, so wrth gwrs oddan ni’n poeni amdano fo.

“Roedd e’n lwcus yn ystod y corwynt, ‘nath ei gymdogion efo tŷ mwy cryf gael o i fewn i gadw fo’n saff, so mae wedi mynd yn ôl i byngalo bach fe, does dim ffenestri, lot o damage dŵr. 

“A’r un peth gyda cousin [Dianne] sy’n byw yn Santa Cruz. Un diwrnod nath hi actually cerdded trwy’r dŵr jyst i cael siarad ar y ffôn achos oedd hi wedi cael trydan o rhywle i chargo ffon hi, ‘chos doedden ni ddim wedi clywed gan neb am tua pedwar diwrnod ar ôl y corwynt. 

“Am wn i maen nhw dal heb drydan a maen nhw’n gobeithio cael trydan nôl wythnos hyn,” esboniodd Natalie. 

Fe fydd eitemau fel batris a goleuadau solar yn cael eu hanfon i'r ynys, yn ogystal â chewynnau, bwydydd sych, poteli dŵr, dillad, meddyginiaethau a llyfrau i blant. 

Image
Natalie
Natalie yn trafod sefyllfa ei theulu yng Nghapel Bethlehem Newydd

'Un teulu mawr'

Dywedodd Gweinidog Capel Bethlehem Newydd, Rhodri Glyn Thomas, ei fod yn “falch iawn” o’r ymdrech y mae pobl leol wedi ei wneud er mwyn helpu eraill. 

Dywedodd ei fod yn “gyfle i geisio dangos cydymdeimlad ‘da’r bobl yma i gynorthwyo nhw gymaint â gallen ni.”

“Pan glywon ni apêl Jamaica yn dilyn Corwynt Melissa a gan fod ‘na gysylltiad lleol fe benderfynon ni ymateb. 

“Da ni’n hynod o ddiolchgar a dyledus i’n haelodau a chefnogwyr y capel sydd yn hael iawn a bob amser yn barod i gyfrannu a bod ni’n hynod o falch ein bod ni’n gallu gwneud rhywbeth yng nghyd-destun yr hyn sydd wedi digwydd yn Jamaica.” 

Image
Aelodau'r capel

Dywedodd Natalie ei bod yn ddiolchgar iawn i’r Gweinidog a’i wraig Marianne Thomas am eu cymorth wrth gasglu nwyddau. 

Ychwanegodd ei bod hefyd yn falch o’r gydnabyddiaeth y mae hi a’i theulu wedi ei gael yn ystod y broses. 

“Mae 'na linciau mawr rhwng Cymru a Jamaica, a cyn cenhedlaeth y Windrush hefyd, so mae’n rili neis. 

“Mae’n sort of y teimlad bod nhw’n gwerthfawrogi ni a bod ni’n un teulu mawr.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.