David Cameron wedi cael triniaeth ar gyfer canser y brostad

David Cameron

Mae'r Arglwydd Cameron wedi datgelu ei fod wedi cael triniaeth ar gyfer canser y brostad.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd The Times dywedodd fod ei wraig wedi mynnu ei fod yn mynd am brawf. Fe wnaeth hi hyn ar ôl gwrando ar gyfweliad gan yr entrepreneur Nick Jones sydd yn dweud bod angen i fwy o ddynion gael y prawf.

Fe gafodd ei drin gyda therapi sydd yn targedu'r ardal lle mae'r tiwmor yn y corff.

Canser y brostad yw'r un mwyaf cyffredin ymhlith dynion ym Mhrydain gyda thua 55,000 o achosion newydd bob blwyddyn.

Mae'r canser yn un mwy cyffredin ymhlith pobl hŷn, yn enwedig dynion dros 75 oed. 

Mae achosion ymhlith rhai o dan 50 yn brin. Mae hefyd yn fwy cyffredin ymhlith dynion du.

Dywedodd wrth y papur newydd: "Dwi ddim yn hoff iawn o drafod materion fy iechyd personol  ond dwi'n teimlo rheidrwydd i wneud. Gadewch i ni fod yn onest. Dyw dynion ddim yn dda iawn am drafod ein hiechyd. Rydyn ni'n tueddu i ohirio gwneud pethau."

Mae David Cameron, oedd yn brif weinidog rhwng 2010 a 2016, yn cefnogi galwad Prostate Cancer Research. Mae'r elusen yn dweud y dylai profion gael eu cynnig i ddynion sydd â risg uchel o gael y cyflwr.

"Fe fydden ni yn teimlo yn wael pe na fydden ni yn siarad am y peth a dweud mod i wedi cael y profiad yma," meddai.

"Fe ges i sgan. Fe wnaeth hynny fy helpu i ddarganfod bod rhywbeth o'i le. Fe wnaeth e olygu bod gen i gyfle i ddelio gyda'r peth."

Does dim rhaglen sgrinio ar hyn o bryd ar gyfer canser y brostad ym Mhrydain am fod pryderon am ba mor gywir yw'r prawf PSA.

Bwriad prawf PSA yw edrych am broteinau sydd yn gysylltiedig gyda chanser y brostad.

Daw cyfweliad yr Arglwydd Cameron ddyddiau ar ôl i dreialon sgrinio canser y brostad ddechrau. Y nod yw darganfod y ffordd orau o ddod o hyd i'r cyflwr gan gymharu sgrinio gyda ffyrdd eraill mae'r gwasanaeth iechyd yn defnyddio i roi diagnosis fel prawf gwaed a biopsi.

 


 


 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.