Rhybudd i beidio defnyddio AI ar ôl achub dau o Ynys Sili
Mae Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau'r DU wedi rhybuddio pobl i beidio â defnyddio AI i chwilio am wybodaeth diogelwch am y môr ar ôl i ddau o bobl gael eu dal wrth i'r llanw godi ger Ynys Sili.
Dywedodd yr asiantaeth nad oedd AI “yn ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth” wedi i’r bobl fynd yn sownd ar yr ynys oddi ar arfordir Bro Morgannwg fis diwethaf.
Mae modd cerdded neu nofio i'r ynys sydd 250 metr o'r tir mawr pan mae'r llanw yn isel ond roedd yr unigolion wedi holi AI pryd oedd y llanw yn mynd i mewn ac allan.
Roedd y wybodaeth yn anghywir a bu’n rhaid i Fad Achub y Barri a Thîm Achub Gwylwyr y Glannau Penarth fynd i'r fan a'r lle. Cafodd y ddau eu cludo yn ddiogel i’r lan.
“Gallai amseroedd llanw, rhagolygon tywydd, a chyngor diogelwch arfordirol arall fod yn anghywir, gan arwain pobl i sefyllfaoedd peryglus,” medda’r asiantaeth.
“Gall deallusrwydd artiffisial hefyd fethu ag adrodd gwybodaeth am beryglon lleol sy'n benodol i'r ardal rydych chi'n ymweld â hi.
“Gwiriwch ffynonellau swyddogol fel y Swyddfa Dywydd eich hun bob amser am ragolygon traeth ac amseroedd llanw cywir.
“Gellir dod o hyd i wybodaeth ddiogelwch dibynadwy ar wefan Gwylwyr y Glannau EM.”
Llun: Ynys Sili gan Steve Daniels.
