Starmer yn barod i ymladd unrhyw heriau arweinyddiaeth
Mae cyfeillion Syr Keir Starmer wedi dweud ei fod yn barod i ymladd unrhyw heriau i'w arweinyddiaeth.
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting wedi gwadu cynllwynio i gael gwared â'r Prif Weinidog gan ddweud y byddai briffio yn ei erbyn yn "gwneud drwg mawr iddyn nhw eu hunain" a "ddim yn helpu neb".
Pryderu mae'r rhai sydd yn gefnogol i Starmer y gallai ei swydd fod mewn perygl mewn cwta bythefnos ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb.
Ymhlith yr enwau sydd yn cael eu crybwyll fel rhai allai ei herio mae Wes Streeting, Shabana Mahmood ac Ed Miliband.
Dyw'r polau piniwn diweddar ddim yn ffafriol i Starmer ac mae yna awgrym bod nifer cynyddol o ASau Llafur ddim yn hapus gyda pherfformiad y Prif Weinidog.
Y gred yw hefyd na fydd y gyllideb yn un boblogaidd gyda'r rhai ar y meinciau cefn yn poeni am y posibilrwydd o godi trethi. Roedd y blaid Lafur wedi dweud yn eu maniffesto cyn yr etholiad na fydden nhw yn codi trethi ond y gred yw y bydd hynny bellach yn digwydd.
'Meddylfryd byncar'
Y darogan yw na fydd Llafur yn gwneud yn dda yn etholiadau yr Alban a Chymru na'r etholiadau lleol yn Lloegr ym mis Mai. Mae rhai yn dweud nad oes modd aros tan ganlyniadau'r etholiadau hynny cyn newid arweinydd.
Ond mae ffrindiau Syr Keir yn dweud y byddai ceisio cael gwared ag o yn achosi anrhefn i'r marchnadoedd arian ac yn gwneud llanast o'r perthnasau rhyngwladol a'r blaid Lafur.
Mae Wes Streeting wedi dweud "nad yw'r Prif Weinidog yn ymladd am ei swydd bore 'ma" ac mae rhywun o'r tu mewn i Rif 10 wedi dweud mai damcaniaethu yw hyn.
Er hynny mae un critig o fewn y llywodraeth wedi dweud wrth sawl gwasanaeth newyddion bod Rhif 10 wedi mabwysiadau "meddylfryd y byncar gan droi ar yr aelodau Cabinet mwyaf triw am ddim rheswm o gwbl.
"Wnaiff y cylch sydd yn saethu ddim helpu i godi ni o'r twll," meddai'r critig.
Llun: Ben Stansall/PA Wire
