Cynnal gŵyl ar Ynys Manaw i hybu'r iaith frodorol
Mae pobl ar Ynys Manaw yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gŵyl pum diwrnod i hybu'r iaith frodorol yno yr wythnos hon.
Fe fydd gŵyl Cooish yn dechrau ddydd Mercher, gyda 25 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal.
Ystyr y gair Cooish ydy 'sgwrs gyfeillgar' yn yr iaith Fanaweg.
Mae'r ŵyl wedi cael ei chynnal ers 1995, ac yn ôl Ruth Keggin-Gell, swyddog datblygu’r iaith Fanaweg ar gyfer sefydliad Culture Vannin, mae'r digwyddiadau amrywiol yn golygu fod yna "bethau i ddechreuwyr sydd erioed wedi siarad gair o Fanaweg yn eu bywydau, a hefyd i siaradwyr hydreus sydd yn rhugl."
Mae'r digwyddiadau yn amrywio o ddarlithoedd ffurfiol i sesiynau gemau bwrdd yn yr iaith, ac fe fydd yna hefyd ganeuon a cherddoriaeth yn yr iaith.
Fe fydd yna hefyd wers ar-lein i ddechreuwyr i ddysgu'r iaith ar y diwrnod cyntaf, gan gynnig y cyfle i'r rhai sydd mewn gwledydd eraill ar draws y byd ond sydd â diddordeb yn y Fanaweg i gymryd rhan.
Yn y cyfrifiad diwethaf ar Ynys Manaw yn 2021, roedd 2,223 o siaradwyr Manaweg.
Mae Culture Vannin yn awyddus i weld y ffigwr yma yn cynyddu.
"Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo y gallan nhw ddysgu Manaweg a'i fod ar gael iddyn nhw," meddai Ms Keggin-Gell.
"Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig iawn pwysleisio ein bod ni eisiau i bawb allu teimlo eu bod nhw'n cael croeso llwyr i gymuned yr iaith Fanaweg."
