Penderfynu dymchwel clwb cymdeithasol wrth ymyl llyncdwll yn Abertawe

ITV Cymru
Clwb Cymdeithasol Cwmfelin

Bydd clwb cymdeithasol yn Abertawe sydd wedi bod yn ymyl llyncdwll ers dros ddwy flynedd yn cael ei ddymchwel.

Fe wnaeth Clwb Cymdeithasol Cwmfelin gau ei ddrysau ym mis Awst 2023 ar ôl i dwll mawr ymddangos yn y maes parcio, wnaeth orfodi 600 o aelodau a 20 o weithwyr i adael yr adeilad.

Mae’n debyg bod y llyncdwll wedi cael ei achosi gan gwlfert 10 metr o dan y clwb, yn ogystal â hen linell tram.

Bellach, mae penderfyniad wedi ei wneud i ddymchwel yr adeilad ar ôl i aelodau'r clwb, Dŵr Cymru a Network Rail, geisio dod o hyd i atebion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn wreiddiol, y gobaith oedd y byddai'r clwb yn cau am ychydig wythnosau yn ystod y gwaith o ddiogelu'r safle. Ond mae'r llyncdwll wedi creu heriau penodol, gan ei fod ar dir preifat ac yn agos at adeiladau eraill.

Fe ddywedodd cadeirydd y clwb, Mike Kennedy: "Mae hi wedi cymryd cymaint o amser i ddod i'r penderfyniad hwn. Rwy'n siomedig iawn.”

Dyw hi ddim yn glir a fydd y clwb yn cael ei ailadeiladu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.