Gareth Bale i ymuno fel pyndit gyda TNT Sports
Mae Gareth Bale wedi ymuno gyda'r darlledwr TNT Sports fel un o'u prif pyndit yn ôl The Guardian.
Mae'r papur newydd yn dweud bod y Cymro wedi arwyddo cytundeb i weithio ar gemau'r Uwch Gynghrair a Chynghrair y Pencampwyr yn ystod ymgyrch 2025-2026.
Daw Bale i wneud y rôl yn lle'r cyn chwaraewr pêl droed gyda Manchester United, Rio Ferdinand. Fe benderfynodd o i beidio ail adnewyddu ei gytundeb ddiwedd y tymor diwethaf.
Mae disgwyl i Bale ymuno gyda Peter Crouch a Joe Cole wrth iddynt ddarlledu gemau byw o'r Uwch Gynghrair amser cinio ar ddyddiau Sadwrn.
Yn ôl The Guardian y gred yw bod Bale wedi creu argraff gyda'i ddadansoddiad o'r ffeinal yng nghwpan Europa rhwng Tottenham ac Manchester United yn Bilbao ym mis Mai.
Roedd TNT yn arfer bod yn BT Sport tan y llynedd.
Mae wedi cael yr hawliau i ddarlledu 52 o gemau'r Uwch Gynghrair y tymor yma.
Llun: Huw Evans