'Camp anhygoel': Pobl nid rhewlif symudodd cerrig o Gymru i Gôr y Cewri

Cor y Cewri

Mae gwaith ymchwil newydd gan arbenigwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi dod i'r casgliad mai pobl oedd yn gyfrifol am gludo cerrig gleision byd-enwog Côr y Cewri o Sir Benfro i Gaersallog - ac nid gan rewlifoedd fel yr honnwyd yn flaenorol.

Mae tîm o arbenigwyr dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, mewn cydweithrediad â gwyddonwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerwysg - wedi ail-ymweld â’r dadleuon ynghylch a gafodd y cerrig mawrion eu symud dros 200km o orllewin Cymru i Swydd Wilton gan rew neu bobl.

Fel rhan o’u hastudiaeth, buon nhw’n canolbwyntio ar ‘glogfaen Newall’, a gloddiwyd yn Stonehenge ym 1924 ac a fu’n ganolog i’r drafodaeth yn y degawdau diwethaf.

Mae rhai astudiaethau wedi disgrifio clogfaen Newall fel maen dyfod rhewlifol, gan gefnogi'r ddamcaniaeth mai rhew oedd yn gyfrifol am gludo'r creigiau a ddefnyddiwyd i godi’r cylch cerrig enwog ar Wastadfaes Caersallog.

Ond mae aelodau o’r tîm dan arweiniad Aberystwyth wedi cynnal archwiliad manwl o glogfaen Newall – gan ddefnyddio technegau dadansoddi pelydr-x, geocemegol a microsgopig yn ogystal â dadansoddi gweadedd arwynebedd – ac maen nhw’n dweud “nad oes tystiolaeth i gefnogi’r dehongliad ei fod yn faen dyfod rhewlifol”.

Daw’r astudiaeth i'r casgliad hefyd bod clogfaen Newall yn ddarn oedd yn weddill o’r broses cynhyrchu offer cerrig. 

Fe ddaeth yn wreiddiol o Graig Rhos-y-Felin yng ngogledd Sir Benfro ac fe’i cludwyd i Gôr y Cewri gan bobl Neolithig. 

Hon o bosib oedd rhan uchaf Carreg 32d sydd bellach wedi torri â’i darn gwaelod wedi’i gladdu tan ddaear.

Samplau o graig

Dywedodd prif awdur y papur, yr Athro Richard Bevins o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: “Rydyn ni wedi cynnal archwiliadau manwl o glogfaen Newall Côr y Cewri a’i gymharu â channoedd o samplau o graig o Sir Benfro. 

"Mae ein canfyddiadau’n cynnig tystiolaeth ddigamsyniol bod y clogfaen wedi’i wahanu oddi wrth biler o rhyolit a ddeilliodd o Graig Rhos-y-Felin, gyda samplau yn dangos nodweddion petrolegol a mwynegol union yr un fath nas canfuwyd yn unman arall yn Sir Benfro er gwaethaf chwilio helaeth.

“Mewn cydweithrediad â chydweithwyr archeolegol, canfuwyd tystiolaeth gref o weithgaredd chwarela helaeth yng Nghraig Rhos-y-Felin yn y cyfnod Neolithig, sy’n ategu ymhellach ein dadl mai pobl a gludodd y cerrig o Sir Benfro i Swydd Wilton. 

"Byddai hynny wedi bod yn gamp anhygoel ond, fel y dengys Côr y Cewri ei hun, byddai wedi bod yn bosibl ac mae digon o dystiolaeth y byddai technoleg cludo ar gyfer symud cerrig trwm wedi bod ar gael i bobl Neolithig ar y pryd.

“Yn ogystal, ni ddaethpwyd o hyd i’r garreg las yn unman arall ar Wastadfaes Caersallog ac eithrio yng nghyffiniau agos Côr y Cewri ei hun. Pe baen nhw wedi’u symud yno gan rewlifoedd, byddai dosbarthiad llawer mwy gwasgaredig o gerrig tebyg ar draws y rhanbarth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.