Keir Starmer dan bwysau i ddilyn Macron wrth i Ffrainc gydnabod Palesteina
Mae Keir Starmer yn wynebu pwysau gan ei blaid ei hun i gydnabod Palesteina ar ôl i Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, ddweud y bydd Ffrainc yn gwneud hynny.
Dywedodd Emmanuel Macron mewn neges ar X mai Ffrainc fydd yr aelod cyntaf o’r G7 i gydnabod bod Palesteina yn wladwriaeth.
Dywedodd y bydd y cyhoeddiad swyddogol yn cael ei wneud yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ym mis Medi.
Fe wnaeth Keir Starmer, Prif Weinidog y DU, gondemnio’r amodau “amhosib eu hamddiffyn” o fewn Gaza cyn galwad brys gydag arweinwyr Ffrainc a’r Almaen ddydd Gwener.
Dywedodd bod gan bobl Palesteina “yr hawl” i’w gwladwriaeth ei hun ond mynnodd y dylai yna fod terfyn ar y gwrthdaro yn gyntaf.
Dywedodd Syr Keir: “Byddaf yn cynnal galwad frys gyda’n partneriaid yn yr E3 yfory, lle byddwn yn trafod yr hyn y gallwn ei wneud ar frys i atal y lladd.
“A’r hyn sydd ei angen er mwyn cael y bwyd sydd ei angen ar bobl, ac adeiladu heddwch parhaol.”
Inline Tweet: https://twitter.com/EmmanuelMacron/status/1948482142356603089
Galwadau
Dywedodd yr AS Llafur Emily Thornberry, cadeirydd y Pwyllgor Materion Tramor, fod y rhan fwyaf o aelodau y pwyllgor cefnogi cydnabod Palesteina ar unwaith.
“Barn mwyafrif y pwyllgor yw y dylai Llywodraeth y DU gydnabod gwladwriaeth Palesteina ar unwaith, gan nodi awydd y DU i weithio ar frys gyda’n cynghreiriaid tuag at sefydlu dwy wladwriaeth,” meddai.
Galwodd yr Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting ddydd Mawrth hefyd am gydnabod Palesteina “tra bod gwladwriaeth ar ôl i’w chydnabod”.
Mae Maer Llundain Syr Sadiq Khan hefyd wedi galw am gydnabyddiaeth ar unwaith, tra bod Cyngres yr Undebau Llafur wedi pwyso am gydnabyddiaeth ffurfiol i Balesteina “nid ymhen blwyddyn na chwaith dwy flynedd - ond nawr”.