'Siomedig dros ben': Elfyn Evans yn colli ei le ar frig Pencampwriaeth y Byd

Elfyn Evans - Rali Estonia

Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen Rali Estonia yn y chweched safle, gan olygu ei fod wedi colli ei le ar frig Pencampwriaeth y Byd.

Roedd Evans yn yr ail safle ar ddiwedd cymal agoriadol y rali ddydd Iau ond yna fe gwympodd i’r seithfed safle ar ôl pump o gymalau ddydd Gwener.

Fe wnaeth e ddal ei dir yn ystod naw cymal y rali ddydd Sadwrn a brwydro i fyny un safle i chweched ar ail gymal ddydd Sul.

Dywedodd Evans ar ddiwedd y rali: “Penwythnos rubbish rili, dim o gwbl beth o’n i ‘di gobeithio amdano.  

"Siomedig dros ben wrth gwrs, a ma’n rhaid i ni gael ein pen lawr wythnos ‘ma a trial cael ychydig o gyflymder o rywle cyn mynd i’r Ffindir."

Wythfed rali

Oliver Solberg o Sweden enillodd y rali ac mae ei brif beiriannydd Steffan Williams yn dod o Bontyberem yn Sir Gâr.

Fe ddaeth Ott Tänak o Estonia yn yr ail safle yn ei rali gartref sy'n golygu ei fod ef yn cymryd safle Evans ar frig y bencampwriaeth eleni o un pwynt.

Roedd Evans yn arwain y bencampwriaeth ar ôl saith rali cynta'r tymor gyda 150 o bwyntiau ac roedd Tänak yn drydydd gyda 138 o bwyntiau gyda chwe rali arall yn weddill ar ôl Estonia.

Dyma’r wythfed rali i Evans yn y bencampwriaeth eleni.

Fe ddaeth yn ail yn Rali Monaco, ennill yn Sweden a Kenya, trydydd ar yr Ynysoedd Dedwydd, chweched ym Mhortiwgal, pedwerydd yn Sardinia a Groeg.

Fe orffennodd Evans yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd ar ôl iddo ennill rali ola’r tymor yn Japan ym mis Tachwedd.

Llun: X/ElfynEvans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.