Actor Hollywood sydd wedi dysgu Cymraeg yn dod i Gymru i greu ffilm fer

Actor Hollywood sydd wedi dysgu Cymraeg yn dod i Gymru i greu ffilm fer

Wedi iddo ddysgu Cymraeg mae'r actor Hollywood Hans Obma wedi dod i Gymru er mwyn creu ffilm fer yn y Gymraeg.

Mae Hans yn enedigol o Wisconsin yng ngogledd yr Unol Daleithiau a bellach yn byw yn Los Angeles.

Fe benderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod bod ei fam-gu yn byw ym Mrynmawr, Blaenau Gwent cyn symud i America ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Treuliodd haf 2023 yn dysgu'r iaith ar gwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi iddo ddychwelyd i America mae'n parhau i ddysgu trwy ddilyn cwrs ar-lein.

Nawr mae wedi dychwelyd i Gymru ac yn ysgrifennu ac actio mewn ffilm fer o'r enw 'Cardigan' gyda rhai o wynebau cyfarwydd byd actio Cymru.

"Y syniad yw rhannu y iaith Gymraeg gyda’r byd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Pan dwi’n cwrdd â phobl yn yr Unol Daleithiau, weithiau maen nhw’n gwybod beth yw Cymru achos maen nhw’n nabod ‘Welcome to Wrexham’.

“Ond, weithiau maen nhw’n dweud wrtha i ‘Ah, dwi erioed wedi clywed y Gymraeg, mae tipyn bach fel y Saesneg, on dyw e?’

“Nac ydy, dyw e ddim yr un peth."

Image
Hans gyda'i diwtor Dysgu Cymraeg Annest John. (Llun: Hans Obma)
Hans gyda'i diwtor Dysgu Cymraeg Annest John. (Llun: Hans Obma)

'Risg i gymuned'

Bydd pedwar o actorion yn y ffilm i gyd, sef Hans Obma, Lois Meleri Jones, Iwan John a Bethany Williams Potter.

Tu ôl i'r llen, y sgriptiwr a chyfarwyddwr o Gaerfyrddin Aled Owen sydd yn cyfarwyddo, Hans sydd wedi ysgrifennu'r sgript a Delyth Lloyd fydd yn cynhyrchu'r ffilm.

“Hans Obma yw dechre’r stori gyd," meddai Aled Owen.

"Penderfynodd e ddysgu Cymraeg a wedyn rhoi fideo mas ar y cyfryngau cymdeithasol yn galw am pobl sy’n creu ffilmiau fer yng Nghymru, yn enwedig yn y Gymraeg.

“Pwrpas y ffilm yw bod ni’n esbonio ma’ ‘na gymuned mewn trefi fel Aberteifi, ma’ ‘na risg i’r gymuned pan y’n ni’n delio gyda pethe fel Airbnb.

"O'dd e'n bwysig i fi bod ni ddim yn creu stori oedd yn dweud bod ni ddim yn lico pobl o tu fas ein pentrefi ni, a dim byd gwrth-Saesneg chwaith.

"Mae'n bwysig bod 'na groeso i bobl sydd eisiau symud i lefydd fel Aberteifi fel enghraifft."

Image
Cynhyrchydd y gyfres Delyth Lloyd a Hans Obma. (Llun: Hans Obma)
Cynhyrchydd y gyfres Delyth Lloyd a Hans Obma. (Llun: Hans Obma)

Yn ystod ei yrfa mae Hans wedi actio yn Better Call Saul, The Vampire Diaries a Narcos: Mexico.

Mae ei egni a brwdfrydedd yn rhywbeth sydd yn amlwg yn ei gymeriad, nid yn unig wrth actio, meddai Aled.

“Ma’ cymaint o egni gyda Hans, a ma’ cymaint o frwdfrydedd gyda fe, nid yn unig dros creu ffilmie ond hefyd dros yr iaith, dros y cymunedau mae e ‘di bod yn dod i gwrdd yn ystod ei amser yma yng Nghymru.

“Ma’ jyst cymaint o egni ‘da fe a mae e’n trosglwyddo i bawb sy’n gweithio gyda fe. Fi’n cyffrous iawn."

'Hiraethu'

Bydd Hans yng Nghymru am bedair wythnos wrth iddo ffilmio'r ffilm fer, parhau i ddatblygu ei Gymraeg trwy gwrs dysgu a mwynhau hefyd.

Ers cyrraedd, mae'r actor wedi ymweld â Gŵyl Canol Dre yng Nghaerfyrddin a dychwelyd i hen dŷ ei fam-gu ym Mrynmawr.

Yn ystod ei wersi wythnos yma, mae wedi dysgu am ystyr y gair 'hiraeth', teimlad sydd yn gyfarwydd iddo pan nad yw e yng Nghymru.

“Mae’n teimlo yn wych i fod yma yng Nghymru," meddai.

“Dwi wedi darganfod tipyn bach o beth yw hiraethu am bod y bobl yma yn siarad ohono.

“A dwi’n teimlo, pan dwi ddim yma, dwi’n hiraethu bod yma."

Image
Hans gyda chymeriadau Lleucu, Rhys a Matthew o Pobol y Cwm (Llun: Hans Obma)
Hans gyda chymeriadau Lleucu, Rhys a Matthew o Pobol y Cwm (Llun: Hans Obma)

Gyda'r ffilmio ar gyfer y ffilm fer wedi ei gwblhau, a fydd Hans eisiau actio mewn rhai o gyfresi poblogaidd S4C ar ôl cael blas ar actio yn y Gymraeg?

“Rheswm arall i fi wneud ffilm fer nawr yw bod fi eisiau cwrdd â phobl creadigol.

“A nawr, mae perthnasau newydd cynnes gyda fi gyda phobl sy’n gweithio.

“Pobol y Cwm, Rownd a Rownd, dyma fi. Dwi’n agored iawn!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.