Gwynedd: Pryderon dros doriadau i reilffordd y Cambrian

18/07/2025
Mabon ap Gwynfor / Llinell y Cambrian

Mae cyfarfod cyhoeddus wedi cael ei drefnu yng Ngwynedd i drafod pryderon dros doriadau i wasanaethau ar reilffordd y Cambrian.

Daw wedi i wleidyddion dweud eu bod yn parhau i dderbyn cwynion wedi toriadau i wasanaethau rhwng Machynlleth a Phwllheli.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi torri dau wasanaeth i'r naill gyfeiriad rhwng y ddwy dref arfordirol, ac fe allai'r amserlen gael ei gwtogi ymhellach yn 2026.

Yn ôl AS Dwyfor Meirionnydd, Mabon am Gwynfor, mae sawl aelod o gymunedau Gwynedd, Dwyfor Meirionnydd a Sir Drefaldwyn yn cael eu heffeithio.

Mae wedi trefnu cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru, Network Rail, Trafnidiaeth Cymru ac AS San Steffan Plaid Cymru, Liz Saville Roberts yn Nhywyn ar 31 Gorffennaf er mwyn i drigolion allu codi pryderon.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod yn "croesawu'r cyfle" i wrando ar adborth ac yn "cryfhau gwasanaethau" gyda'r haf ar fin cychwyn.

'Anfantais'

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae'r newidiadau i amserlen gwasanaethau wedi cael "effaith arwyddocaol" ar yr economi o Fachynlleth i Bwllheli.

"Rydw i'n parhau i dderbyn sawl neges gan fusnesau sydd yn gweld nifer y siopwyr yn disgyn ac maen nhw'n colli incwm, heb sôn am anghyfleustra i ddefnyddwyr trenau, sydd wedi cael eu gadael lawr gan wasanaethau," meddai.

"Rydw i wedi galw'r cyfarfod hwn er mwyn darparu cyfle i bobl leol a defnyddwyr trenau i godi eu pryderon wyneb yn wyneb gyda Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru.

"Gallai pobl sy’n byw ac yn gweithio yng ngogledd-orllewin a chanolbarth Cymru ddod i’r casgliad yn deg bod yr ardaloedd hyn dan anfantais o ran cael mynediad at wasanaeth trên dibynadwy.

“Mae angen i’r rhai sy’n ymwneud â rhoi sêl bendith i’r toriadau hyn glywed yn uniongyrchol sut mae penderfyniadau sydd wedi eu gwneud yn ganolog yn effeithio ar fywydau beunyddiol cymunedau a busnesau ar hyd arfordir Cambria.”

'Ymgysylltu'

Ychwanegodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan o Gyngor Sir Powys bod y rheilffordd yn "gyswllt hanfodol" rhwng Gwynedd a Sir Drefaldwyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: “Mae Llinell arfordir y Cambrian yn rhan bwysig o rwydwaith Trafnidiaeth Cymru, gan sicrhau mynediad i gymunedau gwledig Gwynedd ar gyfer hamdden, twristiaeth ac addysg.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu â chymunedau ar hyd y lein, yn ogystal â gweithio gyda Phartneriaeth Rheilffordd y Cambrian, ac wrth i ni fynd i mewn i dymor yr haf, byddwn yn cryfhau gwasanaethau i ddarparu ar gyfer y niferoedd disgwyliedig o ymwelwyr â’r ardal.

“Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â’r gymuned yn y cyfarfod yn Nhywyn yn ddiweddarach y mis hwn i wrando a chroesawu adborth gan drigolion a grwpiau lleol, a hefyd i rannu ein gweledigaeth i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth ‘Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn’ i Gymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.