Galw am welliannau 'ar frys' wrth ddelio ag achosion treisio
Mae goruchwylwyr yn dweud nad yw’r modd y mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymdrin ag achosion treisio yn “ddigon da” yn ystod y camau cynnar.
Maen nhw’n rhybuddio y gallai hynny beryglu sefyllfa dioddefwyr yn y pen draw.
Dywedodd Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi eu bod yn galw am welliannau “ar frys” er mwyn sicrhau euogfarnau yn y llys.
Yn ôl yr arolygwyr, dyw erlynwyr ddim yn gwneud asesiadau digon cyflawn o’r rhai sydd o dan amheuaeth.
Dydyn nhw ddim yn ystyried sut y mae’r rhai dan amheuaeth yn ymddwyn cyn ac ar ôl ymosodiadau honedig, yn ôl yr arolygwyr.
Yr hyn sydd yn fwyaf pryderus yw bod erlynwyr yn methu â diogelu dioddefwyr yn ystod y camau cynnar, medd yr adroddiad.
Maen nhw hefyd yn cyfeirio at fethiannau sy’n gysylltiedig â mechnïaeth, gorchmynion atal niwed rhywiol a datganiadau personol gan ddioddefwyr.
Yn ôl yr adroddiad, roedd llai ‘na thri o bob 10 achos yn cyrraedd y trothwy wrth gefnogi dioddefwyr yn ddigonol.
Mae Prif Weithredwr Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi, Anthony Rogers, bellach wedi dweud bod angen i Wasanaeth Erlyn y Goron “weithredu ar frys.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Gwasanaeth Erlyn y Goron ei fod yn derbyn casgliadau ac argymhellion yr adroddiad “yn llawn.”
“Rydym yn rhoi cynllun gweithredu ar waith ar unwaith i fynd i’r afael â’r argymhellion hyn, gan flaenoriaethu diogelwch dioddefwyr,” meddai Stephen Parkinson.
Mae’r Twrnai Cyffredinol Lucy Rigby KC wedi gwneud cais am ddiweddariad gan Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi ymhen 12 mis – a hynny er mwyn mesur y cynnydd y mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi eu gwneud erbyn hynny.