Gareth Bale yn dweud bod 'cynnig teg' newydd wedi ei wneud am glwb Caerdydd
Mae Gareth Bale wedi dweud mewn cyfweliad yn America fod 'cynnig teg' newydd wedi ei wneud ganddo ag eraill i brynu Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Mewn cyfweliad gyda Front Office Sports Today, dywedodd y Cymro ei fod yn gobeithio y bydd perchennog presennol y clwb, Vincent Tan, yn ei ystyried o ddifrif.
Dyma'r ail dro i'r grŵp sydd yn cynnwys Bale wneud cynnig am y clwb, er nad yw union faint y cynnig cyntaf am glwb y brifddinas yn eglur.
Wedi tymor siomedig y llynedd, arweiniodd at ddisgyn i Adran Un, fe fydd llawer o gefnogwyr Caerdydd yn gobeithio am newid cyfeiriad ar ddechrau tymor newydd.
Wrth drafod y cynnig diweddaraf, dywedodd Bale: "Rydym yn credu ei fod yn gynnig gwych, un yr ydym yn hapus iawn ag ef.
"Rydym yn credu ei fod yn deg iawn, os nad yn fwy na theg, ac mae'n rhywbeth yr ydym yn gobeithio y bydd y perchnogion presennol yn ei gymryd o ddifrif.
"Byddem wrth ein bodd pe baent yn ei dderbyn fel y gallwn gymryd rheolaeth lawn a symud ymlaen â'r hyn yr ydym am ei wneud a chreu Caerdydd yn glwb yr ydym yn gwybod y gall fod."
Fe ddaeth Vincent Tan yn berchennog ar Gaerdydd yn 2010, ac mae ei gyfnod wrth y llyw wedi bod yn ddadleuol ar brydiau.