Cynnig gwobrau am gasglu sbwriel o lethrau'r Wyddfa
Fe fydd cyfle i gerddwyr ar Yr Wyddfa ennill gwobrau am gasglu sbwriel sydd wedi ei adael ar y mynydd, diolch i syniad gan ddisgyblion ysgol o Wynedd.
Y llynedd fe gynhaliwyd cynhadledd amgylcheddol COPA1 ar Yr Wyddfa, ac fel rhan o'r digwyddiad fe gafwyd cystadleuaeth i ddod o hyd i atebion i fynd i'r afael â llygredd yn Eryri.
Ymysg y syniadau buddugol, roedd cais unigryw gan ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Tywyn.
O ddechrau mis Gorffennaf, bydd modd i gerddwyr gasglu bagiau coch o Swyddfa’r Warden neu’r Hwb ym Mhen y Pass.
Unwaith y bydd y sbwriel wedi ei gasglu fe fydd y wardeiniaid yn ei bwyso.
Am bob 100 gram o sbwriel sydd yn cael ei gasglu, bydd enwau pobl yn cael eu rhoi mewn raffl — gyda thri chyfle i ennill bob mis.
Wrth drafod y syniad, dywedodd Sylvie o Ysgol Uwchradd Tywyn: "Syniad ni oedd cael cystadleuaeth casglu ysbwriel am un mis o hyd pob blwyddyn ar ben Yr Wyddfa.
"Am bob un 100 gram o ysbwriel da chi'n casglu, da chi'n cael un tocyn raffl.
"Fyddwch chi'n gallu ennill gwobrau fel talebau i atyniadau twristiaeth lleol."
Ychwanegodd Deri, sydd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Tywyn: "Y cwbl da chi'n gorfod neud ydy casglu sbwriel ar eich ffordd fyny i'r Wyddfa a wedyn mynd a fo nôl i lawr i Ben y Pass i gael ei bwyso gan y wardeiniaid."