'Mwy o bobl yn mynd â'u cŵn at gartref anifeiliaid oherwydd y gost o fynd at y milfeddyg'
'Mwy o bobl yn mynd â'u cŵn at gartref anifeiliaid oherwydd y gost o fynd at y milfeddyg'
Dydy Cartref Cwn Caerdydd ddim yn bell o fod yn llawn.
Mae 40 o gŵn yn byw yma ar hyn o bryd a dim ond lle ar gyfer ambell un arall.
Mae'r gweithwyr yn gweld mwy o berchnogion yn gadael eu cŵn yma oherwydd bod hi wedi mynd yn ddrytach mynd at y milfeddyg.
"Mae pobl yn dod gyda'u cŵn ac isie gadael y cwn yma achos bo' nhw methu fforddio'r triniaeth mae'r cŵn ei angen."
Ydy hynny wedi mynd yn waeth? Ydy prisiau'r milfeddygon wedi codi?
"Ydi, maent wedi codi yn fawr iawn. Dyna un o'r rhesymau na'th y ganolfan a'r elusen benderfynu setio lan y milfeddyg yma."
Fe all cŵn gael eu trin ar y safle yma am bris tipyn rhatach ond roedd gwaith codi arian cyn medru agor y gwasanaeth.
Mae biliau milfeddygon wedi codi 60% dros gyfnod o wyth mlynedd.
Hynny, yn ôl yr Awdurdod Cystadleuaeth sy'n poeni bod nifer fach o gwmniau mawr nawr yn rheoli gormod o'r farchnad.
Ond mae rhybudd gan un o filfeddygon mwyaf profiadol Cymru fod angen meddwl am y costau o flaen llaw.
"Pan y'ch chi'n prynu ci neu gath a'u gwneud yn aelod o'r teulu ystyriwch beth yw cost cadw anifail.
"Cost brechiadau, parasites a wormers. Ond hefyd cost os bydd anifail yn mynd yn sâl yda diabetes, er enghraifft, ac angen meddyginiaeth am byth neu drawiad ar y galon, neu'n cael anaf ar yr hewl."
Mae'n amlwg fod rhai perchnogion yn ymwybodol iawn o'r costau y mae'n rhaid iddyn nhw eu talu.
"I would say every session is a minimum of £50 just for a consultation. The insurance is over £100 a month.
"That covers big bills, which is why you do it."
"Mae mynd i'r milfeddyg yn ddrud iawn, ond mae yswiriant gyda ni.
"Heb yswiriant, byddwn i methu fforddio mynd at y milfeddyg."
Be mae'r Gymdeithas Filfeddygol Brydeinig wedi dweud ydy bod cost gofal wedi cod am sawl rheswm.
Mae'r ffioedd yn adlewyrchu prisiau mae'r busnesau'n gorfod eu codi er mwyn gallu dal ati, ond maent hefyd yn dweud os ydy pobl yn poeni am y gost, dylen nhw ddweud wrth y milfeddyg oherwydd bydden nhw wastad yn ystyried lles yr anifail.
Fe fydd rhaid i'r cŵn yma ddisgwyl am gartref newydd am y tro.
Fe allen nhw gynnig cyfeillgarwch. Mi fydd, er hynny, costau hefyd.