
Netflix yn rhoi cyllid i lanhau Llyn Padarn rhag planhigion niweidiol
Mae Parc Gwledig Padarn wedi diolch i gwmni ffrydio Netflix am ddarparu cyllid i fynd i’r afael â phlanhigion dinistriol yn Llyn Padarn.
Mae gwaith i fynd i’r afael â chwyn dyfrol ymledol (‘invasive aquatic weeds’) wedi bod yn digwydd ar Lyn Padarn ym mharc cenedlaethol Eryri, Gwynedd, yn ddiweddar.
Fe roddodd Netflix gyllid er mwyn mynd i'r afael â'r mater ac mae Parc Padarn wedi diolch iddynt.
Fe wnaeth y cwmni dreulio cyfnod yn ffilmio yn yr ardal yr hydref diwethaf.
“Efallai eich bod wedi gweld y gwaith diweddar sy'n digwydd ar Lyn Padarn i fynd i'r afael â chwyn dyfrol ymledol,” meddai llefarydd mewn datganiad.

“Diolch i gyllid gan Netflix a roddodd yr arian sydd ei angen i fynd i'r afael â'r mater hwn ar ôl ffilmio yn yr ardal yr hydref diwethaf, rydym wedi gallu gwneud cynnydd sylweddol o ran rheoli'r planhigion niweidiol hyn.
“Ond nid yw hyn yn golygu bod y broblem wedi diflannu'n llwyr,” ychwanegodd.
Mae Parc Padarn yn annog pobl sy’n mynd i mewn i’r llyn i ddilyn camau penodol er mwyn diogelu’r llyn.
Ymhlith y camau rheiny maent yn annog pobl i wirio eu holl offer a dillad am chwyn neu blâu, gan sicrhau eu bod yn glanhau a sychu offer yn drylwyr.
