Newyddion S4C

'Dadl i'w chael' a ydi’r targed 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ‘yn ddefnyddiol’

Efa Gruffudd Jones

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud fod yna ddadl i’w chael a ydi’r targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg “yn ddefnyddiol”.

Roedd Efa Gruffudd Jones yn ymateb i ddatganiad arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, y byddai yn barod i gefnu ar y targed i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Wrth siarad ar raglen Politics Wales dywedodd Comisiynydd y Gymraeg bod yna drafodaeth i’w chael am hynny.

“Rydw i’n meddwl fod yna ddadl a thrafodaeth go iawn i’w chael a ydi’r targed yn ddefnyddiol ai peidio,” meddai.

“Rydw i’n croesawu targed am ei fod yn rhoi uchelgais i ni.

“Ond does yna ddim pwynt cael targed ar ei ben ei hun. Mae angen popeth arall yn ei le er mwyn gallu ei gyflawni.

“Felly yn hynny o beth dydw i ddim yn pryderu gormod am ddadl, neu drafodaeth, am y targed ynddo’i hunan.”

Daw ei sylwadau wedi iddo lansio maniffesto "uchelgeisiol" ar gyfer etholiad Senedd 2026.

Roedd yn cynnwys "blaenoriaethau clir” y mae’n gobeithio y bydd yr holl bleidiau “yn barod i’w mabwysiadu cyn etholiad Senedd Cymru yn 2026”.

Wrth siarad ar Politics Wales dywedodd mai nod y maniffesto oedd “ein bod ni wir angen clywed gan wleidyddion beth maen nhw eisiau ei gynnig i ni fel etholwyr yn y dyfodol”.

“Mae’n bwysig bod pob plaid yng Nghymru yn esbonio i ni beth yw eu cynlluniau.” 

‘Blaenoriaeth’

Yn ei maniffesto mae Comisiynydd y Gymraeg yn amlinellu pum maes sydd angen eu blaenoriaethu er mwyn gwneud "gwahaniaeth gwirioneddol" i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg pan fydd tymor newydd y Senedd yn cychwyn.

Mae'r rhain yn cynnwys ymestyn safonau’r Gymraeg i "feysydd blaenoriaeth", creu uned arbenigol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a sicrhau hyfforddiant Cymraeg gorfodol ar gyfer y gweithlu addysg.

Y meysydd dan sylw gan Gomisiynydd y Gymraeg ydy:

  • Dyletswyddau iaith - cynyddu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd drwy ymestyn safonau’r Gymraeg i feysydd blaenoriaeth.
  • Cynllunio ieithyddol cymunedol - ymestyn dylanwad y Comisiynydd drwy gryfhau’r safonau hybu fel fframwaith i gydlynu cynllunio ieithyddol cymunedol dwys.
  • Gweithleoedd - sefydlu uned arbenigol yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg mewn gweithleoedd.
  • Gwasanaeth iechyd a gofal clinigol - trawsnewid gofal clinigol yn y Gymraeg drwy fuddsoddi a gweithredu’n ddwys mewn meysydd blaenoriaeth.
  • Y gweithlu addysg - sefydlu fframwaith hyfforddiant iaith Gymraeg pum mlynedd fel rhan orfodol o hyfforddi fel athro yng Nghymru.

‘Synnu’

Wrth ymateb i’r maniffesto dywedodd mudiad ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith bod angen galwadau penodol ar ymestyn y Safonau i’r sector breifat a sicrhau nad yw unrhyw ddatblygiadau i waith y Comisiynydd yn tynnu oddi ar ei gwaith craidd, sef rheoleiddio sefydliadau sy’n dod o dan y Safonau.

Dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Mae rhai pethau i’w croesawu yn y maniffesto, fel ymestyn y Safonau i gyrff newydd, ond mae angen galwad glir am estyn Safonau i’r sector breifat, megis cwmnïau’r stryd fawr. 

“Rydyn ni’n synnu nad yw’r maes digidol wedi ei gynnwys yn y maniffesto, o ystyried adroddiad diweddar y Comisiynydd oedd yn dangos bod defnydd isel o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc wrth ddefnyddio’r we a’r cyfryngau cymdeithasol. 

“Rydyn ni’n galw am ddatganoli grymoedd darlledu o Lundain i Gymru, ac am sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg fyddai’n gweddnewid sefyllfa’r Gymraeg ar-lein.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.