Newyddion S4C

Codi cwch hwylio y Bayesian o wely’r môr

Bayesian

Mae cwch hwylio moethus y Bayesian a suddodd oddi ar arfordir ynys Sisili yn yr Eidal y llynedd wedi cael ei godi o wely'r môr gan dîm achub arbenigol.

Bu farw saith o'r 22 o bobl ar fwrdd y llong yn y suddo, gan gynnwys perchennog y llong, y biliwynydd technoleg Prydeinig Mike Lynch a'i ferch 18 oed.

Suddodd y cwch yn ystod tywydd stormus ym mis Awst, ond mae arbenigwyr morol wedi dweud y dylai'r Bayesian fod wedi gallu gwrthsefyll y storm ac na ddylai fod wedi suddo mor gyflym ag y gwnaeth.

Cafodd offer yn debyg i falŵns mawr eu defnyddio i godi'r cwch.

Cafodd hwylbren 72 medr y cwch ei dorri ddydd Mawrth a'i osod ar wely'r môr er mwyn hwyluso'r gwaith. 

Fe fydd yr hwylbren yn cael ei godi yn yr un modd a'r cwch yn ddiweddarach.

Ym mis Mai, bu farw deifiwr yn ystod gwaith rhagarweiniol i godi’r Bayesian.

Yn ôl y cyfryngau Eidalaidd, roedd y deifiwr yn ddinesydd o'r Iseldiroedd a oedd yn gweithio i gwmni achub arbenigol.

Clywodd cwest i farwolaeth y biliwnydd Mike Lynch ei fod wedi marw trwy foddi wedi llongddrylliad y Bayesian.

Bu farw Mr Lynch, 59, a'i ferch, Hannah Lynch, 18, yn ogystal a chadeirydd y banc rhyngwladol Morgan Stanley, Jonathan Bloomer, 70, a'i wraig Judy Bloomer, 71, ar ôl i'r cwch suddo oddi ar arfordir Sisili yn yr Eidal ym mis Awst y llynedd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.