Palestine Action Group i gael eu gwahardd ar ôl torri i mewn i ganolfan yr RAF
Mae'r Ysgrifennydd Cartref yn paratoi i wahardd y Palestine Action Group ar ôl i ddwy awyren gael eu fandaleiddio mewn canolfan yr RAF.
Yn ôl asiantaeth newyddion PA mae Yvette Cooper wedi penderfynu gwahardd y grŵp, gan ei gwneud yn drosedd perthyn i neu gefnogi Palestine Action Group.
Daw'r penderfyniad ar ôl i'r grŵp gyhoeddi lluniau arlein yn dangos dau berson y tu mewn i'r ganolfan yn RAF Brize Norton yn Sir Rhydychen.
Mae'r lluniau’n dangos un person yn reidio sgwter trydan hyd at awyren dancer tanwydd ac mae'n ymddangos ei fod wedi chwistrellu paent i mewn i’r peiriant.
Mae'r digwyddiad hefyd yn cael ei ymchwilio gan yr heddlu gwrthderfysgaeth.
Cyhuddodd llefarydd ar ran Palestine action y DU o fethu â chyflawni eu rhwymedigaeth i atal neu gosbi hil-laddiad.
Dywedodd y llefarydd: “Pan fydd ein llywodraeth yn methu â chynnal eu rhwymedigaethau moesol a chyfreithiol, cyfrifoldeb dinasyddion cyffredin yw cymryd camau uniongyrchol.
"Y terfysgwyr yw’r rhai sy’n cyflawni hil-laddiad, nid y rhai sy’n torri’r offer a ddefnyddir i’w gyflawni.”
Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref y pŵer i wahardd sefydliad o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000 os yw hi’n credu ei fod yn “ymwneud â therfysgaeth”.
Bydd gwahardd yn ei gwneud yn ofynnol i Ms Cooper osod gorchymyn yn Senedd San Steffan, y mae’n rhaid iddo wedyn gael ei drafod a’i gymeradwyo gan ASau ac arglwyddi.
Mae tua 81 o sefydliadau wedi’u gwahardd o dan Ddeddf 2000, gan gynnwys grwpiau terfysgol Islamaidd fel Hamas ac al Qaida, grwpiau asgell dde eithafol fel National Action, a’r Wagner Group, y cwmni milwrol preifat o Rwsia.
Mae 14 sefydliad arall sy’n gysylltiedig â Gogledd Iwerddon hefyd wedi’u gwahardd o dan ddeddfwriaeth flaenorol, gan gynnwys yr IRA.
Llun: PA/Palestine Action