Newyddion S4C

Torfeydd wedi ymgasglu ger Côr y Cewri fore Sadwrn er mwyn dathlu heuldro’r haf

Heuldro'r haf

Fe wnaeth miloedd o bobl ymgynnull yng Nghôr y Cewri fore Sadwrn i ddathlu heuldro’r haf sy'n dynodi diwedd y gwanwyn a dechrau’r haf.

Yr heuldro yw un o’r unig achlysuron blynyddol pan fydd English Heritage yn caniatáu i bobl fynd yn agos at gerrig Côr y Cewri.

Mae ‘cerrig gleision’ byd-enwog Côr y Cewri yn dod o safle yn agos at Fynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro.

Image
Heuldro'r haf

Does neb wir yn gwybod pam y cafodd Côr y Cewri ei adeiladu.

Mae Côr y Cewri yn gofeb a adeiladwyd yn union ar hyd llinell y wawr ar ganol haf a’r machlud ar ganol gaeaf.

Ar heuldro’r haf, mae'r haul yn codi y tu ôl i'r Maen Sawdl - y fynedfa hynafol i'r cylch cerrig - ac mae pelydrau’r haul yn cael eu sianelu i ganol y gofeb.

Image
Heuldro'r haf

Credir bod heuldro’r haf wedi cael ei ddathlu yng Nghôr y Cewri ers miloedd o flynyddoedd.

Mae heuldro’r haf yn digwydd wrth i un o begynau'r Ddaear gyrraedd ei ogwydd mwyaf tuag at yr haul wrth iddo gyrraedd ei safle uchaf yn yr awyr, gan sicrhau'r cyfnod hiraf o olau dydd yn ystod y flwyddyn.

Image
Heuldro'r haf

Dywedodd curadur English Heritage, Jennifer Wexler, fod pobl wedi bod yn nodi’r heuldro wrth y cerrig ers miloedd o flynyddoedd.

Dywedodd:“Mae heuldro’r haf yn un o’n heiliadau mwyaf arbennig.

“Dyma’r diwrnod hiraf yn y flwyddyn, ond hefyd yr amser pan fydd yr haul ar ei uchaf yn yr awyr.

“Rydym yn credu bod pobl wedi bod yn ei nodi yma ar y safle ac yn ymgynnull yma ers miloedd o flynyddoedd.”

Lluniau gan Zhanna Manukyan / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.