Disgwyl oedi eto y tu hwnt i 2033 cyn agor HS2
Mae disgwyl oedi eto y tu hwnt i 2033 cyn y bydd rheilffordd HS2 yn agor.
Bydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn dweud wrth Dŷ’r Cyffredin ddydd Mercher nad oedd yn bosib cwblhau'r rheilffordd o fewn yr amserlen a’r gyllideb bresennol.
Bydd dau adroddiad hefyd yn cael eu cyhoeddi am HS2 ddydd Mercher gyda’r nod o “gau pen y mwdwl” ar y modd y mae’r prosiect wedi ei reoli yn y gorffennol.
Bydd un gan Brif Weithredwr Crossrail, James Stewart, yn nodi beth sydd wedi mynd o'i le gyda HS2 hyd yn hyn, a'r hyn y gall gweinidogion ei ddysgu ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.
Bydd yr un arall gan Mark Wild, prif weithredwr newydd HS2 ers mis Rhagfyr y llynedd, yn asesu cam nesaf adeiladu'r prosiect o Lundain i Birmingham.
Mae pris y rheilffordd eisoes wedi cynyddu £37bn rhwng 2012 a’r etholiad cyffredinol y llynedd.
Mae’r rheilffordd wedi bod yn destun dadlau gwleidyddol yng Nghymru hefyd wedi iddi gael ei dynodi yn brosiect ‘Cymru a Lloegr’ er nad oes yr un rhan ohoni yng Nghymru.
Mae Plaid Cymru wedi dadlau y dylai Cymru gael £4 biliwn o arian ychwanegol, fel ‘cyfran deg’ o’r arian sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y prosiect, a hynny yn seiliedig ar fformiwla Barnett.
Mae Llafur wedi dweud bod y ffigwr yn agosach at £350m gan na chafodd HS2 ei gwblhau yn ôl y cynllun gwreiddiol.
Fe wnaeth y Canghellor Rachel Reeves gyhoeddi £445m ar gyfer prosiectau rheilffordd newydd yng Nghymru dros gyfnod o 10 mlynedd yr wythnos ddiwethaf.