Ffrainc 'am ganiatáu i’r heddlu atal cychod bach ymhellach o'r lan'
Mae Ffrainc "wedi rhoi caniatâd" i’r heddlu yn y wlad i atal cychod bach sy'n cael eu defnyddio gan fudwyr pan maen nhw ymhellach o’r lan, yn ôl Swyddfa Gartref y DU.
O ddechrau mis Gorffennaf ymlaen bydd gan heddlu Ffrainc yr hawl i atal y cychod pan maen nhw yn y dŵr 300 metr o'r lan.
Ar hyn o bryd mae swyddogion yn cael atal cychod sydd yn cael eu hamau o smyglo pobl i'r DU cyn iddyn nhw fynd i'r môr.
Mae swyddogion ym Mhrydain yn credu y gallai'r newid gwneud gwahaniaeth mawr.
Daw'r newid wrth i'r rhai sydd yn smyglo pobl i'r DU addasu eu tactegau er mwyn peidio cael eu rhwystro gan yr heddlu.
Yn hytrach na llwytho pobl ar gychod wrth y lan lle gall yr heddlu eu hatal, mae smyglwyr bellach yn lansio'r cychod rhai milltiroedd i ffwrdd cyn eu hwylio draw ac yna mae pobl yn cerdded allan i'r môr er mwyn dringo ar y cychod.
Yn ôl y Swyddfa Gartref mae 16,545 wedi croesi'r sianel mewn cychod bach eleni, sydd yn gynnydd o 45% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2024.
Dywedodd Syr Keir Starmer nos Fawrth bod y sefyllfa yn "dirywio" a'i fod yn ystyried gostwng nifer y fisas sydd ar gael i wledydd sydd ddim yn gadael i geiswyr lloches sydd methu â chael mynediad i'r DU dychwelyd.
Wrth siarad yng nghynhadledd G7 yng Nghanada dywedodd Starmer: "Mae hyn yn her ddifrifol sydd angen ymateb difrifol."
Ychwanegodd fod y DU yn ystyried "os ddylai fisas gael eu cysylltu gyda'r hyn mae gwledydd yn ei wneud er mwyn atal pobl sydd yn ceisio mudo".