Newyddion S4C

Y seren deledu, Kim Woodburn, wedi marw’n 83 oed

kim woodburn.jpg

Mae’r seren deledu, Kim Woodburn, wedi marw yn 83 oed wedi salwch byr, medd ei theulu.

Daeth Kim Woodburn yn enwog fel arbenigwr glanhau yn How Clean Is Your House ar Channel 4 gydag Aggie MacKenzie.

Dywedodd llefarydd: “Gyda thristwch mawr, mae’n rhaid i ni adael i chi wybod fod Kim Woodburn wedi marw ddoe wedi cyfnod o salwch byr.

“Roedd Kim yn berson ofnadwy o glên, gofalgar, llawn carisma ac yn berson cryf.

“Mae ei gŵr, Peter, yn torri ei galon wedi iddo golli ei enaid hoff cytûn.

“Rydym mor falch o’r pethau y mae Kim wedi eu cyflawni yn ei bywyd a’i gyrfa.”

Llun: X Kim Woodburn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.