
Darluniau Roald Dahl i fynd ar werth ar ôl cael eu darganfod mewn amlen
Bydd darluniau’r awdur Roald Dahl yn cael eu gwerthu'r wythnos hon ar ôl iddynt gael eu darganfod mewn hen amlen.
Cafodd brasluniau gwreiddiol Dahl eu canfod y tu mewn i amlen. Ei gyd-weithiwr, Ian Craig, oedd yn berchen ar yr amlen ac fe fuodd farw yn 2023.
Roedd Roald Dahl yn enedigol o Landaf yng Nghaerdydd ac fe fuodd farw yn 74 oed yn 1990.
Roedd Dahl wedi creu’r gwaith celf drwy ddefnyddio beiro du, a hynny ar gyfer ei hunangofiant Boy a gafodd ei gyhoeddi yn 1984.
Dyma oedd yr unig dro i’r awdur ddefnyddio gwaith celf ei hun yn un o’i lyfrau.



Fe fydd y brasluniau nawr yn cael eu gwerthu fel rhan o arwerthiant Lyon & Turnbull yng Nghaeredin, Yr Alban ddydd Mercher.
Y gred yw y byddan nhw’n cael eu gwerthu am bris rhwng £20,000 a £30,000.
Yn ei hunangofiant, mae’r awdur yn cofio am sawl antur y cafodd ef a’i ffrindiau fel bechgyn ifanc – gan gynnwys rhoi corff llygoden oedd wedi marw y tu fewn i jar losin yn y siop losin lleol.
Mae wedi tynnu braslun llygoden yn gorwedd ar ben losin gyda’i goesau yn yr awyr i gyfleu’r foment yma.
Roedd Dahl yn cydweithio gyda chwmni cyhoeddi llyfrau Jonathan Cape ar y llyfr Boy. Ian Craig oedd cyfarwyddwr celf cwmni Jonathan Cape adeg hynny.
Roedd Quentin Blake, sydd yn adnabyddus am ei waith celf yn llyfrau Roald Dahl ar ei wyliau ar y pryd.
Lluniau: Roald Dahl (Wikipedia); brasluniau Roald Dahl (Lyon & Turnbull)