Spurs yn penodi Thomas Frank fel prif hyfforddwr
Mae clwb pêl-droed Tottenham Hotspur wedi penodi rheolwr Brentford, Thomas Frank, yn brif hyfforddwr ar gytundeb tan 2028.
Mae Frank, 51 oed o Ddenmarc, yn cymryd lle Ange Postecoglou, a gafodd ei ddiswyddo yn gynharach y mis hwn er iddo arwain Spurs i fuddugoliaeth yn rownd derfynol Cynghrair Europa ym mis Mai.
Mae Frank wedi treulio saith mlynedd gyda Brentford, gan arwain y clwb o'r Bencampwriaeth i'r Uwch Gynghrair yn 2021.
Ef yw pedwerydd rheolwr parhaol Tottenham ers mis Mehefin 2021.
Fe orffennodd Spurs yn 17eg safle yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, gan golli 22 o'u 38 gêm a gorffen saith safle a 18 pwynt islaw Brentford.
Fodd bynnag, maen nhw wedi cymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf ar ôl curo Manchester United yn rownd derfynol Cynghrair Europa yn Bilbao diolch i gôl gan chwaraewr Cymru, Brennan Johnson - eu tlws mawr cyntaf ers 17 mlynedd.
Llun: X/Tottenham Hotspur