Newyddion S4C

Oes angen newid y ffordd mae plant yn defnyddio apiau fel TikTok ac Instagram?

Oes angen newid y ffordd mae plant yn defnyddio apiau fel TikTok ac Instagram?

Sgrolio, hoffi a rhannu.

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o fywyd bob dydd.

Oes angen newid y ffordd mae plant yn defnyddio'r appiau yma?

O TikTok, Instagram i Snapchat. Maen nhw hyd yn oed yn boblogaidd ymysg plant cynradd.

"Blwyddyn 6 yw'r flwyddyn lle maen nhw'n dechre cael ffonau symudol.

"Ni'n sicr yn gweld dylanwad y ffonau symudol yna ar y plant.

"Mae beth mae plant yn clywed yn ddwys, pryderus ac yn gallu cael sgil-effeithiau niweidiol iawn os ydyn nhw'n deall hynny neu beidio."

Er mwyn gwneud y byd digidol yn fwy diogel i blant mae'r Llywodraeth yn bwriadu gosod terfyn amser o ddwyawr y dydd ar appiau fel Snapchat a TikTok.

Maen nhw hefyd yn ystyried ei gwneud hi'n amhosib i blant ddefnyddio'r appiau yma ar ôl 10yh.

"Helo, Guto yma."

Mae Daniel Bell sy'n athro ac arbenigwr lles yn rhedeg tudalen TikTok i'w fab, Guto.

Mae e o'r farn fod angen gwella ymwybyddiaeth rhieni o beryglon cyfryngau cymdeithasol.

"Dw i'n meddwl bod o'n bwysig bod rhywle fatha TikTok yn rhoi platfform i Guto sy'n 8 oed ond mae'n llwyr bwysig mai ni fel rhieni sy'n gyfrifol ohono fo.

"Mae'n bwysig bod ymwybyddiaeth rhieni yn dod i ystyriaeth yn ganol y penderfyniadau neu'r newidiadau a bod rhieni'n gyfrifol dros ddefnydd pobl ifanc yng Nghymru."

Ond pa mor ymarferol yw gosod cyfyngiadau fel hyn?

Yw syniadau'r Llywodraeth yn ddigon i warchod plant rhag y byd ar-lein?

"Dw i'm yn gallu meddwl pa mor ymarferol ydy hyn.

"Y Llywodraeth a'r cwmniau 'ma i weithredu systemau.

"Dw i'n credu'n gryf y dylen nhw wneud e'n anoddach i blant gael cyfrif yn y lle cyntaf.

"Mae o mor hawdd i blant dan 13 greu cyfrif yn y wlad yma.

"Dim ond e-bost a dyddiad geni ffug sydd angen.

"Dyna beth ddylen nhw fod yn ei wneud."

Gyda'r byd ar-lein yn newid, bydd y trafod yn siwr o barhau wrth i blant dyfu i fyny yn yr oes ddigidol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.