Newyddion S4C

Bachgen fu farw yng nghartref ei nain a’i daid ‘wedi dioddef ymosodiad dro ar ôl tro’

Ethan Ives-Griffiths

Mae tystiolaeth fod bachgen dwy flwydd oed a fu farw yng nghartref ei nain a’i daid yn Sir y Fflint wedi dioddef “ymosodiad dro ar ôl tro”, clywodd llys ddydd Mercher.

Mae Michael Ives, 47 oed, a Kerry Ives, 46 oed, y ddau o Stryd Kingsley, Garden City, Sir y Fflint, yn gwadu achosi marwolaeth Ethan Ives-Griffiths yn eu cartref ar 14 Awst 2021.

Maen nhw hefyd wedi pledio'n ddieuog i achosi neu ganiatáu'r farwolaeth, a chreulondeb.

Clywodd y rheithgor fod y nain a’r taid yn yr ystafell ar y pryd pan lewygodd cyn cael ei gludo i'r ysbyty.

Maen nhw’n rhoi'r bai am ei farwolaeth ar ei fam, Shannon, 28 oed - ond mae’r erlyniad yn dweud nad oedd hi yn yr ystafell ac felly nad oedd hi’n gyfrifol am yr anafiadau angheuol.

Dywedodd Jayaratnam Jayamohan sy’n niwrolawfeddyg pediatrig ymgynghorol a ymddangosodd yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar linc fideo ddydd Mawrth bod y bachgen wedi cyrraedd yr ysbyty mewn cyflwr “gwael iawn”.

“Roedd ymdrech gobeithiol i’w achub,” meddai wrth y llys. “Roedd o’n debygol o farw ond roedd yn fachgen ifanc felly roedd rhaid i ni roi tro arni.

“Roedd popeth yn ei erbyn hynny.”

Dywedodd ei fod eisoes wedi dioddef anaf “drawmatig” i’w ben erbyn iddo gyrraedd yr ysbyty ar 14 Awst, 2021.

“Erbyn iddo lewygu roedd wedi dioddef anaf i ochor ei ben neu anaf o ganlyniad i’w ysgwyd, neu'r ddau,” meddai.

Clywodd y llys bod ganddo waedlif ar yr ymennydd ac roedd mewn coma.

Dywedodd yr erlynydd KC Caroline Rees fod yna waed hŷn a oedd yn awgrymu bod dau ddigwyddiad wedi bod a achosodd waedu yn yr ymennydd.

Atebodd y meddyg: “Ydw. Rwy'n credu fod o leiaf ddau ddigwyddiad, a gallai fod mwy.”

“Mae tystiolaeth bod Ethan wedi cael ymosodiadau dro ar ôl tro,” meddai.

Stopiwyd y cymorth bywyd a bu farw Ethan yn yr ysbyty ar Awst 16, 2021.

Wrth gyflwyno’r achos yr wythnos diwethaf, dywedodd yr erlynydd KC Caroline Rees wrth y rheithgor fod Ethan yn ddwy flynedd a thri mis oed pan fu farw mewn ysbyty yn Lerpwl ar 16 Awst, 2021.

Mae’r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.