Newyddion S4C

Nain a thaid yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr dwy oed

Nain a thaid yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr dwy oed

Rhybudd: Mae’r erthygl yma yn cynnwys manylion all beri gofid

Fe wnaeth plentyn dwy oed oedd yn “boenus o denau” ddioddef “poen, niwed a gofid” cyn cael ei lofruddio gan ei nain a'i daid, mae llys wedi clywed.

Mae Kerry Ives, 46 oed, a’i gŵr Michael, 47 oed, wedi’u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr, Ethan Ives-Griffiths, a fu farw yn yr ysbyty ar 16 Awst 2021, ar ôl i ambiwlans gael ei alw i’w cartref yn Ninas Gardd, Sir y Fflint dau ddiwrnod ynghynt. 

Maen nhw’n gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod y cwpl wedi beio mam Ethan, Shannon Ives, am ei farwolaeth.

Mae Ms Ives wedi’i chyhuddo o ganiatáu neu achosi ei farwolaeth a chreulondeb yn erbyn plentyn. Mae hi’n gwadu’r cyhuddiad.

Ar agoriad yr achos ddydd Mercher, clywodd y rheithgor fod Shannon Ives, 28 oed, a’i mab wedi bod yn byw yn nhŷ ei rhieni yn y cyfnod yn arwain at ei farwolaeth.

Dywedodd Caroline Rees KC: “Mae’r erlyniad yn dweud bod amser Ethan yng nghartref y ddau ddiffynnydd yn gwbl druenus a’i fod wedi’i dargedu gan y diffynyddion fel rhywun i’w gam-drin ac esgeuluso.”

Ychwanegodd: “Roedd yn dawel, yn swil, yn fach ac yn boenus o denau.”

Dywedodd fod y plentyn wedi “dioddef creulondeb” ac, yn ôl arbenigwr meddygol, y byddai wedi profi “trallod, poen a dioddefaint yn y dyddiau a’r wythnosau cyn ei farwolaeth”.

Ar noson 14 Awst, roedd Ethan i lawr y grisiau gyda’i nain a’i daid tra bod ei fam i fyny’r grisiau ar y ffôn ar yr adeg y dioddefodd yr anaf a wnaeth achosi ei farwolaeth, clywodd y llys.

Dywedodd Ms Rees: “Mae’r erlyniad yn dweud mai'r ymosodiad grymus ar Ethan y noson honno oedd y penllanw ar gyfnod o esgeulustod a cham-drin corfforol ac emosiynol arno gan y rhai a ddylai fod wedi gofalu amdano fwyaf.”

Dywedodd Kerry a Michael Ives wrth yr heddlu fod eu hŵyr wedi cwympo’n sydyn.

Dywedodd Ms Rees eu bod wedi dewis “rhoi’r bai ar eu merch eu hunain” yn hytrach na chyfaddef yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd.

Ychwanegodd fod Shannon Ives yn ymwybodol bod ei rhieni yn “peri risg sylweddol o niwed corfforol” i’w mab, ond “nad oedd wedi cymryd unrhyw gamau i’w ddiogelu”.

Mewn cyfweliad yn ddiweddarach, dywedodd Shannon Ives ei bod yn “ofnus” o’i rhieni.

Clywodd y llys bod Kerry Ives wedi oedi am bron i 20 munud cyn ffonio 999 ar ôl i Ethan ddisgyn, gan alw am 21.21.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Iarlles Caer cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl am lawdriniaeth ar yr ymennydd, cyn iddo farw am 18.00 ar 16 Awst.

Roedd ganddo “anafiadau difrifol iawn” i’w ben, ac roedd “o dan ei bwysau yn difrifol”, gyda “chleisiau ar ei hyd”.

Fe wnaeth archwiliad post-mortem ganfod ei fod yn pwyso 10kg, a bod ganddo 40 o anafiadau allanol.

Fe wnaeth tystiolaeth feddygol ddangos fod ei anaf angheuol i’r pen wedi’i achosi gan ddefnydd bwriadol o rym, a allai fod wedi cynnwys cael ei ysgwyd, meddai Ms Rees.

Mae disgwyl i’r achos barhau am chwe wythnos. Fe fydd yn parhau ddydd Llun.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.