Heddlu eisiau canfod perchnogion cŵn a gafodd eu darganfod mewn car
Mae Heddlu’r Gogledd wedi lansio apêl er mwyn dod o hyd i berchnogion dau gi a gafodd eu darganfod mewn car ar yr A55.
Cafodd gyrrwr y car ei arestio ar amheuaeth o ddwyn.
Mae’r dyn hefyd wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau ac o ddwyn cerbyd.
Dywedodd yr heddlu mewn neges ar Facebook eu bod wedi darganfod “dau gi hyfryd” yn y car.
“Mae’r tîm ar hyn o bryd yn gofalu am y cŵn yn ein pencadlys tra ein bod ni’n disgwyl iddynt gael eu casglu gan ein cydweithwyr yn y cytiau cŵn.”
Maent yn dweud y byddant nawr yn ceisio dod o hyd i’r perchennog ac yn gofyn i bobl rannu’r neges yn y gobaith y bydd rhywun yn gwybod mwy amdanynt.
Llun: Heddlu Gogledd Cymru Arfordir Gorllewin Cymru