Chwilio am feic modur wedi i'r gyrrwr gael anaf difrifol yn Abertawe
Mae'r heddlu yn Abertawe yn ymchwilio wedi i yrrwr beic modur 27 oed gael ei anafu'n ddifrifol fore Sul ym Môn-y-maen.
Fe darodd y beic yn erbyn fan toc ar ôl 11:00.
Cafodd gyrrwr y beic modur ei gludo i'r ysbyty. Dyw ei anafiadau difrifol ddim yn peryglu ei fywyd, yn ôl yr heddlu.
Mae'r llu yn ceisio dod o hyd i'r beic modur trydan a gafodd ei symud o safle'r gwrthdrawiad cyn i'r heddlu gyrraedd.
Dywedodd y Cwnstabl Ross McGrath: "Rydym eisiau diolch i'r cyhoedd a wnaeth ein helpu yn y lleoliad, ac rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un welodd y gwrthdrawiad, sydd heb gysylltu â ni eto.
"Ry'n ni hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd â gwybodaeth am y beic modur, sy'n gerbyd i'w yrru oddi ar y ffordd."
Mae modd cysylltu â'r heddlu drwy nodi'r rhif 2500172648.