Denmarc v Cymru: ‘Ry’ ni’n ymladd â phopeth sydd gyda ni’
Fe fydd tîm pêl-droed menywod Cymru yn wynebu Denmarc yn Odense nos Wener mewn ymgais i beidio â disgyn adran yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Dywedodd chwaraewr canol cae Cymru, Alice Griffiths, fod y garfan yn bwriadu “ymladd â phopeth sydd gennym ni i aros yma oherwydd rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hi ar gyfer y dyfodol”.
Mae tîm Rhian Wilkinson ar waelod tabl A4 gyda dau bwynt ac yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf.
Mae Cymru bedwar pwynt y tu ôl i Ddenmarc a'r Eidal wrth wynebu dwy gêm olaf yr ymgyrch gan ddal i fedru osgoi disgyn.
Fe wnaeth Cymru ddal arweinwyr y grŵp, Sweden, i ddwy gêm gyfartal 1-1 tra hefyd yn creu argraff wrth greu cyfleoedd mewn colledion agos i Ddenmarc a’r Eidal.
Fe gollodd Cymru o 2-1 yng Nghaerdydd yn erbyn Denmarc fis diwethaf.
Bydd y ddwy gêm nesaf yn cwblhau gwaith paratoi Cymru ar gyfer rowndiau terfynol EURO 2025 a gynhelir yn y Swistir ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Griffiths hefyd ei bod yn breuddwydio o fod yn rhan o'r garfan fydd yn mynd i'r Swistir.
Ychwanegodd: “Mae’n rhywbeth sy’n fy ngyrru i bob dydd.
“Rwy’n rhoi popeth o fewn fy ngallu i geisio gwneud y garfan honno, a beth bynnag yw’r canlyniad, rwy’n gwybod fy mod wedi rhoi popeth.
“Byddai’n golygu popeth i mi. Rydw i wedi bod i mewn ac allan o’r garfan a dyw e ddim wedi bod yn hawdd, ond byddai’n gwneud yr holl waith caled yn werth chweil. Rwyf braidd yn gyndyn i adael fy hun i fynd yno nes fy mod yn gwybod ei fod yn digwydd.”
Dywedodd capten Cymru, Angharad James: "Mae'r ddwy gêm yma'n bwysig i ni. Ni moyn aros yn Grŵp A. Mae'n rhaid canolbwyntio ar bob gêm ar y tro a wedyn canolbwyntio ar yr Euros."
Mae'r tîm wedi derbyn hwb wrth i Jess Fishlock ddychwelyd i'r garfan.
Ar ôl Denmarc fe fydd Cymru’n herio'r Eidal yn Abertawe nos Lun 3 Mehefin, i gloi eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Llun: Asiantaeth Huw Evans