
Môn: Ffrae am dyllau yn y ffordd wedi gadael trigolion ‘ar ben eu tennyn’
Mae trigolion sy’n byw ar stâd yn Ynys Môn yn dweud bod ffrae ynghylch cyfrifoldeb am eu ffordd sy’n llawn tyllau wedi eu gadael “ar ben eu tennyn”.
Mae gyrwyr dosbarthu a lorïau biniau wedi dweud eu bod yn amharod i fynd i mewn i ran o Lys Tegeirian yn Llangristiolus oherwydd wyneb anwastad y ffordd.
Fe gafodd yr ystâd ei datblygu gan Hughes Bros. Ltd, ond ni chafodd y ffordd, sy’n cael ei defnyddio gan 11 o gartrefi, ei mabwysiadu gan Gyngor Ynys Môn erioed, ac felly mae wedi bod yn destun ymrafael cyfreithiol ers hynny.
Mae'r datblygwr yn beio'r cyngor am y sefyllfa, tra bod y cyngor yn dweud mai'r datblygwr sydd ar fai.
Dywedodd un o’r trigolion, Richard Beckmann, fod preswylwyr oedrannus yn ei chael hi’n anodd cludo eu biniau i faniau casglu a bod pobl ifanc yn baglu wrth chwarae.
Dywedodd hefyd bod ceir mewn perygl o gael eu difrodi, a bod rhai pobl wedi'i chael hi'n "bron yn amhosibl" gwerthu tai.

Dywedodd y cyngor ei fod wedi cyflwyno Hysbysiadau Torri Amodau a bod sawl erlyniad wedi bod yn erbyn y datblygwr, ond bod y sefyllfa’n parhau heb ei datrys.
Mewn ymateb, honnodd y datblygwr John Hughes ei fod wedi cael ei feio’n annheg, gan ddweud bod y mater yn parhau oherwydd y cyngor yn “llusgo ei draed” ac yn methu â mabwysiadu’r ffordd.
Dywedodd fod mynd i’r llys wedi costio mwy na £5,000 i’r cwmni, a theimlai nad oedd eu hochr nhw o’r stori wedi cael ei deall.
Ychwanegodd fod y sefyllfa gyda’r cyngor yn “ffars”, a bod canlyniad yr anghydfod parhaus wedi bod yn “ofnadwy”.
“Mae plant ifanc a phobl yn baglu dros dyllau yn y ffordd” meddai Mr Bechmann, “mae eraill wedi ceisio gwerthu, ond wedi ei chael bron yn amhosibl.” meddai.
Yn ddiweddar, lansiodd Mr Beckmann ddeiseb yn y Senedd o’r enw ‘Stopiwch Bla’r Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu’ - yn galw am newid yn y gyfraith ynghylch ffyrdd heb eu mabwysiadu.
Cyflwynodd hefyd Gais Rhyddid Gwybodaeth i’r cyngor ar ran y trigolion yn gofyn am ragor o wybodaeth am y mater.

Mae’r trigolion hefyd wedi galw ar yr Aelod o'r Senedd Rhun ap Iorwerth, sy’n cynrychioli Ynys Môn i’w helpu.
Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Rwyf wedi gwneud ymholiadau ers amser maith ar ran trigolion Llys Tregeirian ac yn parhau i ymgyrchu ochr yn ochr â nhw i gwblhau’r gwaith angenrheidiol ar y ffordd.
“Mae’r mater hwn wedi bod yn ddifrod i drigolion ers gormod o amser ac maen nhw wedi cael eu siomi’n fawr gan y datblygwyr.
“Mae rhywbeth sylfaenol o’i le gyda system sy’n caniatáu i ddatblygwr gerdded i ffwrdd heb orffen eu gwaith.” meddai.
Dywedodd Dylan J Williams, prif weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, fod y mater hwn wedi bod yn “destun pryder i ni fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl).”
“Er gwaethaf ein hymdrechion gorau - gan gynnwys cyflwyno Hysbysiadau Torri Amodau a nifer o erlyniadau yn erbyn y datblygwr - mae’r cynnydd wedi bod yn rhwystredig i bob parti.”
Ychwanegodd eu bod wedi awgrymu y gallent ddilyn eu camau cyfreithiol eu hunain drwy’r llysoedd sifil.
“Nid oes gennym unrhyw bwerau i wneud gwaith ar dir y datblygwr heb ganiatâd.” meddai.

Honnodd Mr Hughes fod y sefyllfa wedi dechrau ar ôl i'r cyngor fethu ag archwilio'r pibellau, ac yna gofyn am eu cloddio.
“Doedd dim byd o'i le ar y pibellau, roedd y gwaith yn berffaith, does dim problemau erioed wedi bod, felly fe wnaethon ni wrthod eu cloddio,” meddai.
“Yr hyn a ddylai fod wedi digwydd oedd bod angen i'r cyngor gyhoeddi Adran 38, fel y gellid rhyddhau arian i orffen y gwaith.
“Erbyn hyn, bydd diffyg arian, a chredwn y dylai'r cyngor ei dalu.
“Rydym yn hapus i eistedd i lawr gyda phwy bynnag sydd ei angen arnom, i ddatrys y sefyllfa.” meddai.