Newyddion S4C

Busnes o Gymru yn datblygu ffordd arloesol o reoli diabetes

Glucowear

Mae busnes o Gymru yn datblygu ffordd arloesol o reoli diabetes.

Mae Afon Technology Ltd yn fusnes o Gil-y-coed yn Sir Fynwy sy'n gweithio ar y synhwyrydd glwcos gwaed anfewnwthiol (non-invasive) cyntaf yn y byd y mae modd ei wisgo.

Mae'r synhwyrydd yn mesur lefelau mewn amser real, gan gael gwared ar yr angen i bigo bys yn aml. 

Derbyniodd y busnes dros £2 miliwn o gyllid gan Horizon Ewrop i gyflymu'r broses o ddatblygu'r gwaith. 

Glucowear ydy enw'r synhwyrydd ac mae'n cael ei wisgo ar yr arddwrn ac yn defnyddio signalau microdonnau pŵer isel iawn i fonitro lefelau glwcos.

Dywedodd Sabih Chaudhry, Prif Swyddog Gweithredol Afon Technology Ltd: "O'n swyddfa fach a'n labordy yng Nghymru, mae ein tîm medrus yn mynd ar drywydd y greal sanctaidd o ran gwaith monitro glwcos. Dyma ddatblygiad arloesol sydd â'r potensial i newid y byd."

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn annog ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru i ddatblygu ceisiadau ar gyfer y rhaglen Horizon, sy'n cael ei rhedeg gan y Comisiwn Ewropeaidd tan 2027.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: "Mae cyllid Horizon Ewrop yn hanfodol i ymchwilwyr, arloeswyr a busnesau sy'n gwthio ffiniau gwyddoniaeth ac yn mynd i'r afael â heriau hanfodol, megis newid hinsawdd, triniaeth feddygol a chystadleurwydd diwydiannol mewn technolegau newydd.

“Rwy'n annog sefydliadau yng Nghymru i fanteisio ar statws Gwlad Gysylltiol y DU o dan y rhaglen yn 2025 er mwyn inni feithrin ein henw da fel magned ar gyfer cydweithredu, buddsoddi a rhagoriaeth ryngwladol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.