Newyddion S4C

Anthony Albanese yn cael ei ail ethol yn Brif Weinidog Awstralia

03/05/2025
Anthony Albanese

Mae Prif Weinidog Awstralia, Anthony Albanese wedi ei ail ethol ar ôl ennill yr etholiad cyffredinol yno, gan gynyddu ei fwyafrif. 

Yn cynrychioli'r canol chwith, sicrhaodd ei blaid ddigon o bleidleisiau i guro Peter Dutton a oedd yn arwain y Glymblaid Ryddfrydol Genedlaethol.

Ar ôl ei chynrychioli hi am 24 mlynedd, collodd Peter Dutton ei sedd ei hun. 

Er na fydd y cyfrif pleidleisiau wedi dod i ben am rai dyddiau eto, mae Mr Dutton eisoes wedi ildio.  

Y gred yw y bydd gan lywodraeth newydd Awstralia 86 o seddi, y Glymblaid â 39, tra bydd gan y Blaid Werdd un neu ddwy sedd. 

Ar ddechau'r ymgyrch etholiadol bum wythnos yn ôl, roedd hi'n agos iawn rhwng y ddwy brif blaid. 

Ymhlith y prif bynciau llosg, roedd costau byw, cyfundrefn iechyd sy'n dirywio a thai anfforddiadwy. 

Mae arlywyddiaeth Donald Trump a'i gynlluniau i godi tariff ar fewnforion i America hefyd wedi bod yn bwnc trafod cyson yn ystod yr ymgyrch etholiadol.   

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer wedi llongyfarch Anthony Albanese ar ei fuddugoliaeth. 

“Mae'r Deyrnas Unedig ac Awstralia mor agos ag erioed - sy'n profi y gall cyfeillgarwch o bellter fod y cryfaf," meddai.  

“Rwy'n gwybod y byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd yn cyflawni yr un dyheadau, ym maes masnach, buddsoddi ac ynni, gan geisio sicrhau bywyd gwell i bobl sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig ac Awstralia," ychwanegodd.  

Llun: Stefan Rousseau/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.