Elfyn Evans yn gorffen yn drydydd yn Rali’r Ynysoedd Dedwydd
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen yn y trydydd safle yn Rali'r Ynysoedd Dedwydd ddydd Sul.
Kalle Rovamperä o’r Ffindir enillodd y rali ar ynys Gran Canaria gyda Sébastien Ogier o Ffrainc yn ail.
Roedd Evans yn y trydydd safle ar ddiwedd chwe chymal y rali ddydd Gwener.
Fe gadwodd ei safle ar saith o gymalau ddydd Sadwrn i hawlio’i le ar y podiwm yn dilyn pump o gymalau ddydd Sul.
Dyma’r seithfed podiwm yn olynol i Evans a’i gyd-yrrwr Scott Martin sy’n golygu ei fod yn ymestyn ei fantais ar frig pencampwriaeth y byd.
Mae eisoes wedi ennill yn Sweden a Kenya yn gynharach yn y flwyddyn.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1916480201845846280
Llun: X/Elfyn Evans