Trenau tram trydan newydd yn cael eu profi yn y de
Mae trenau tram trydan newydd yn cael eu profi ar linellau rheilffordd y Cymoedd sydd wedi eu trydaneiddio’n ddiweddar.
Mae’r trenau tram Dosbarth 398 yn rhan o fuddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd ledled Cymru, fydd yn “chwyldroi trafnidiaeth” yn y de, yn ôl Trafnidiaeth Cymru.
Bydd y trenau yn gallu rhedeg ar linellau rheilffordd a thram, ac felly’n gallu gweithredu ar linellau trydan uwchben a phŵer batri.
Byddent hefyd yn gallu cario mwy na 250 o deithwyr mewn tri cherbyd.
Mae dros 170km o linellau rheilffyrdd wedi cael eu trydaneiddio, gan gynnwys llinellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert, wedi buddsoddiad o dros biliwn o bunnoedd.
Cafodd depo newydd sbon gwerth £100 miliwn ei hadeiladu hefyd yn Ffynnon Taf, sy’n cael ei ddefnyddio fel canolfan reoli ar gyfer y Metro ac fel cartref i'r 36 trên tram newydd.
'Carreg filltir'
Disgrifiodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru, y cyhoeddiad fel “carreg filltir bwysig arall”.
Ychwanegodd eu bod eisoes wedi cyflwyno trenau Dosbarth 756 newydd ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert.
“Erbyn hyn rydym yn gyffrous i symud ymlaen i gam nesaf y prosiect, wrth i ni brofi ein trenau tram rheilffordd ysgafn a fydd yn cynnig gwasanaeth ‘cyrraedd a mynd’ fel rhan o Metro De Cymru,” meddai.
“Trwy drawsnewid ein rhwydwaith rheilffyrdd, rydym yn anelu at ddarparu opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy, cyfforddus a deniadol i'n cwsmeriaid."
Dywedodd Andrew Gazzard, Pennaeth Parodrwydd Gweithredol yn TrC y bydd yn rhaid i’r timau “arfer â’r trenau a chael profiad o’u gyrru”.
Ychwanegodd y byd angen iddyn nhw ddechrau ar hyfforddi’r gyrwyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
“Mae'n foment falch iawn i mi a'r tîm allu gweld y trenau tram hyn ar y rhwydwaith ac rydym yn edrych ymlaen at y cam nesaf - sef eu paratoi ar gyfer y teithwyr," meddai.