Newyddion S4C

Rygbi Caerdydd: 'Pobl gyda diddordeb prynu'r clwb ond mae'n broses gymhleth'

10/04/2025
Arms Park / AHE

Mae un o'r gweinyddwyr gafodd ei benodi i ofalu am y broses o drosglwyddo Rygbi Caerdydd i reolaeth Undeb Rygbi Cymru wedi dweud bod yna "bobl gyda diddordeb" prynu'r clwb, ond ei bod hi'n "broses eithaf gymhleth". 

Daw hyn wedi i gorff cyfreithiol y clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr am gyfnod.

Cadarnahaodd y gweinyddwyr PricewaterhouseCoopers (PwC) nos Fercher eu bod wedi gwerthu'r asedau a'r busnes i Undeb Rygbi Cymru, gan ddweud mai "methiant y perchennog Helford Capital i godi digon o gyllid i gynnal y busnes arweiniodd at y problemau ariannol".

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Iau, dywedodd un o'r gweinyddwyr, Rob Lewis: "Ni wedi bod yn siarad gyda cwpl o bobl dros yr wsnose dwytha ond ma' prynu clwb rygbi yn broses eitha gymhleth felly oedd 'na neb rili yn gallu sefyll mewn i gymryd y clwb drosodd heb tipyn mwy o waith.

"Yr unig peth rili oedd gyda ni i neud oedd trosglwyddo fe drosodd i'r Undeb am amser dros dro a wedyn bydd yr Undeb yn gallu siarad gyda pobl sydd gyda diddordeb i gymryd y clwb ymlaen."

Ychwanegodd: "Mae 'na bobl gyda diddordeb. Ma' rhedeg clwb rygbi yn proses ddrud, ma' clybie rygbi, clybie pêl-droed yn redeg ar colled rhan fwya felly fi'n siwr bydd yr Undeb yn llwyddiannus i ddatrys y broblem ond dwi'n siwr bydd e'n cymryd cwpl o misoedd eto er mwyn datrys e yn y long-term."

'Newyddion da'

Mae'r ffaith fod Undeb Rygbi Cymru yn cymryd rheolaeth o Rygbi Caerdydd yn newyddion cadarnhaol i'r clwb yn ôl Mr Lewis.

"Mae'n newyddion da i'r clwb a'r cefnogwyr. Ni wedi gwerthu popeth sy'n cynnal mewn y clwb i'r undeb a felly bydd y clwb yn cadw mlaen, mae'r tocynnau tymor yn cadw mlaen bod yn applicable i'r gemau sy'n mynd mlaen a bydd y clwb yn cario mlaen chwarae yn URC.

"Ni wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd y clwb ers cwpl o fisoedd jyst er mwyn paratoi rhag ofn oedd yr arian ddim yn dod mewn so o'n i'n barod i sefyll mewn. 

"Ni wedi bod yn siarad gyda'r Undeb dros y cyfnod 'na i neud yn siwr os oedd y clwb yn gorfod mynd mewn i administration, byse ni'n gallu neud beth ni wedi neud sef transferrio popeth er mwyn cadw pethau i fynd."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.