Dynes o'r Wyddgrug wedi marw tra'n teithio yn Awstralia
Mae cwest wedi clywed bod dynes o’r Wyddgrug wedi marw mewn seiclon tra'r oedd hi'n teithio yn Awstralia fis diwethaf.
Roedd Eleanor Thompson, 35 oed o Ffordd Rhuthun, yn treulio cyfnod yn teithio yn y wlad ar ei phen ei hun mewn fan wersylla pan darodd Seiclon Alfred.
Wrth agor y cwest yn Rhuthun ddydd Llun, dywedodd Uwch Grwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins, bod Ms Thompson yn Burringbar, De Awstralia, pan darrodd y storm ar 8 Mawrth.
Roedd yr awdurdodau lleol wedi rhybuddio pobl i beidio â mynd tu allan adeg y storm.
Roedd tad Ms Thompson yn cael ar ddeall bod ei ferch mewn ardal anghysbell ar y pryd ac yn ceisio chwilio am loches, medd Mr Gittins.
“Y gred yw ei bod wedi gadael y fan ac mae’n bosib fod y cerbyd wedi rholio gan achosi anafiadau iddi,” meddai.
Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal yn Awstralia. Yn ôl canlyniadau’r post-mortem, “anafiadau lluosog” oedd achos ei marwolaeth.
Dywedodd y Crwner y bydd yn rhaid cynnal cwest gan fod corff Ms Thompsan bellach wedi'i ddychwelyd i Gymru.
Ond ychwanegodd bod angen cynnal ymholiadau pellach ac yn sgil hynny fe allai fod yn gryn amser cyn cynnal gwrandawiad cwest llawn.
Roedd tua 290,000 o gartrefi heb bŵer yn ystod Seiclon Alfred ac fe gafodd gwyntoedd o hyd at 100mya eu cofnodi.