Newyddion S4C

Lansio system raddio newydd ar gyfer cartrefi gofal yng Nghymru

System graddio cartrefi gofal

Bydd system raddio newydd a fydd yn rhoi sgôr ar gartrefi gofal yn cael ei lansio fis nesaf er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y 'gofal orau posib'.

Bydd sgoriau yn cael eu rhoi ar wasanaethau gofal er mwyn helpu pobl i ddeall yn well ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu.

Y gobaith yw y bydd yn ei gwneud yn haws i unigolion a theuluoedd wneud penderfyniadau gwybodus am eu hopsiynau.

Bydd pob cartref gofal a gwasanaeth cymorth cartref ar draws Cymru yn cael sgôr ac mae'n ofynnol i'r rhan fwyaf ohonynt eu harddangos yn eu hadeiladau ac ar-lein, yn dilyn arolygiad.

Bydd y graddfeydd yn adlewyrchu ansawdd y gofal ar draws pedair thema allweddol, sef: Lles; Gofal a Chymorth; Arweinyddiaeth a Rheolaeth; Amgylchedd.

Bydd pob thema yn cael ei barnu'n rhagorol, yn dda, angen gwelliant neu angen gwelliant sylweddol.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar y graddfeydd arolygu ar gyfer gwasanaethau gofal, gan gynnwys cartrefi gofal a gofal cartref, y llynedd.

Dros y misoedd nesaf, bydd mwy a mwy o wasanaethau'n dangos eu sgôr, ond bydd yn cymryd hyd at ddwy flynedd i'r holl wasanaethau perthnasol gael eu harolygu a chael eu sgôr.

Yn ôl y Llywodraeth, mae’r system newydd hon yn “cynrychioli newid sylweddol o ran cefnogi gwelliant parhaus”.

'Nodi cryfderau'

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol, bod gan y gwasanaethau gofal ledled Cymru “rôl hollbwysig” mewn gofalu am bobl.

Eglurodd bod y gwasanaethau hyn yn gallu bod “yn gartref” i lawer o bobl, lle maent yn "byw ac yn ffynnu”.

“Bydd y graddau hyn yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau pwysig wrth ddewis yr hyn sy’n iawn iddyn nhw a chefnogi eu llesiant.” meddai.

“Byddant hefyd yn galluogi darparwyr gwasanaethau i nodi eu cryfderau yn ogystal â meysydd ar gyfer twf a datblygiad.”

Dywedodd Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Gillian Baranski, y bydd y system raddio newydd hon yn “helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus” am y gwasanaethau gofal, “wrth gefnogi darparwyr i wella ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu yn barhaus,”.

"Mae'r rhan fwyaf o ofal yng Nghymru yn ofal da” meddai, a “bydd y graddfeydd yn amlygu'r hyn sy'n gweithio'n dda ac yn cefnogi gwelliant lle bo angen ledled Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.