Newyddion S4C

Galw am fwy o gefnogaeth i ddisgyblion yn dilyn y pandemig

26/03/2025

Galw am fwy o gefnogaeth i ddisgyblion yn dilyn y pandemig

"Mae rhai pobl wedi gweld pethau sy am aros yn y cof a wedi newid nhw."

"O'n i'm yn deall pam roedd ni ddim yn yr ysgol."

Dosbarthiadau gwag a dysgu ar-lein.

Bum mlynedd yn ol, newidiodd bywydau plant Cymru yn llwyr.

"Ar y dechrau, roedd e'n wych achos dim mwy o ysgol.

"Wedyn, ar ol bach o amser, aeth e'n ddiflas."

"Doeddwn i ddim yn siwr beth oedd yn digwydd.

"O'n i mor ifanc ac yn gweld Mam a Dad fi mewn bach o banig."

O'r gwersi hanes i'r gwersi cerdd.

Mae bywyd ysgol bellach nol i normal.

Mae effaith y cyfnod rhyfedd ar blant a phobl ifanc yn amlwg.

"Roedd angen benthyg cyfrifiadur o'r ysgol am yr holl beth.

"Fi'n rhywun sy'n hoffi mynd mas tu fas ac ers yr amser clo, mae hwnna wedi newid fi.

"Fi ddim eisiau mynd mas tu fas shwt gyment rhagor."

"Pryd o'n i'n dechrau mynd nol a gweld llawer o bobl o'n i fel, "I don't want to be back!"

"O'n i'n aros yn y ty, chwarae gemau a gwneud beth fi moyn a nawr chi'n gorfod mynd nol i'r ysgol lle chi ddim eisiau bod."

I blant ar hyd a lled Cymru roedd mynd nol i'r ysgol ac i fywyd cyn Covid yn her.

Gyda'r nifer o blant sy'n absennol o'r ysgol yn parhau'n broblem.

Yn ol Estyn, y corff sy'n arolygu ysgolion Cymru gallai gymryd dros ddegawd i bresenoldeb ysgolion uwchradd wella i fod fel oedden nhw cyn y pandemig.

"Daeth plant mewn i arferion newydd.

"Roedd ambell blentyn yn teimlo'n fwy diogel i gael ei addysg adref.

"Mae hwnna, hyd yn oed pum mlynedd yn ddiweddarach dal yn her o ran sicrhau bod disgyblion yn mynychu'r ysgol."

Mae disgyblion uwchradd sy'n gymwys i brydau ysgol am ddim ar gyfartaledd, yn colli diwrnod o ysgol bob wythnos.

A galw nawr am fwy o gefnogaeth i gefnogi'r rhai wedi eu heffeithio fwyaf.

"Ers y cyfnod clo,
ni wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y plant sydd hefo problemau iechyd meddwl.

"Problemau fel iselder a phryder.

"Efallai bydd rhaid meddwl am fuddsoddi mwy o arian i helpu'r athrawon a'r ysgolion i gefnogi'r plant a'u teuluoedd y gorau medran nhw."

Yn ol Llywodraeth Cymru mae'r rhesymau dros golli'r ysgol yn amrywiol ac yn gymhleth.

Maen nhw wedi darparu £7 miliwn i gynyddu lefelau presenoldeb a £5 miliwn i gefnogi rhaglen iechyd meddwl CAMHS mewn ysgolion.

Pum mlynedd yn ddiweddarach ac mae sgil-effeithiau'r cyfnod clo yn parhau ar ol i fywydau plant a phobl ifanc newid yn llwyr.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.