
Cartref genedigol yr artist Syr Kyffin Williams ar werth ym Môn
Mae tŷ ar Ynys Môn ble ganwyd yr artist Syr Kyffin Williams wedi ei roi ar y farchnad.
Wedi ei leoli ar Ffordd Penymynydd yn Llangefni, yn agos i safle presennol Coleg Menai, cafodd y tŷ ei adeiladu yn y 17eg Ganrif.
Mae gan y tŷ bum llofft a gerddi mawr, ond efallai’r nodwedd fwyaf unigryw yw’r plac sydd ar flaen yr adeilad.

Mae’r plac yn cofnodi genedigaeth nodedig o fewn y pedair wal: “Yn y tŷ hwn y ganwyd yr arlunydd Kyffin Williams. 1918-2006.”
Mae'r tŷ ar werth am £460,000.
Mae Kyffin Williams yn cael ei ystyried yn un o artistiaid mwyaf dylanwadol Cymru yn yr 20fed ganrif.

Yn ddiweddarach yn ei fywyd, fe symudodd i’w gartref ym Mhwllfanogl ar ôl cyfnod yn dysgu yn Llundain.
Mae ei dirluniau mewn olew yn hawlio prisiau uchel ac mae marchnad fawr am ei waith hyd heddiw.
Yn 2008, cafodd arddangosfa barhaol o’i waith ei hagor yn Oriel Ynys Môn, yn Llangefni, lle mae cerflun ohono.
Bu farw Syr Kyffin Williams yn 88 oed yn 2006 wedi cyfnod o salwch.