Newyddion S4C

Y bocsiwr George Foreman wedi marw’n 76 oed

George Foreman

Mae un o gewri’r byd bocsio, George Foreman, wedi marw’n 76 oed.

Dywedodd neges ar dudalen Instagram y cyn-bencampwr pwysau trwm y byd ei fod wedi marw “yn heddychlon wedi’i amgylchynu gan ei deulu” ddydd Gwener.

“Mae ein calonnau wedi torri,” meddai’r neges.

Roedd “yn bregethwr selog, yn ŵr ffyddlon, yn dad cariadus, ac yn daid a hen daid balch," a oedd yn byw bywyd “drwy ei ffydd” a gyda “phwrpas”.

Enillodd Foreman fedal aur Olympaidd yn 1968 cyn hawlio ei deitl pwysau trwm cyntaf gyda buddugoliaeth dros Joe Frazier yn 1973.

Daeth ei ail bencampwriaeth fwy na dau ddegawd yn ddiweddarach yn 45 oed, gyda buddugoliaeth syfrdanol dros Michael Moorer ym 1994 gan ei wneud y pencampwr pwysau trwm hynaf erioed.

Cafodd Foreman lwyddiant aruthrol ym myd busnes ar ôl iddo ymddeol, gyda’i George Foreman Grill poblogaidd yn gwerthu mewn miliynau.

Bu'n briod bum gwaith ac mae ganddo 12 o blant.

“Rydym yn ddiolchgar am eich cariad a gweddïau, ac yn gofyn yn garedig am breifatrwydd wrth i ni anrhydeddu bywyd rhyfeddol dyn y cawsom ein bendithio i'w alw'n un ein hunain,” meddai’r neges gan ei deulu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.