Newyddion S4C

'Bywyd hollol wahanol': Effaith Covid hir ar ddynes o Sir Fôn

21/03/2025

'Bywyd hollol wahanol': Effaith Covid hir ar ddynes o Sir Fôn

O'n i medru cerdded i fyny mynyddoedd fel yr Wyddfa a phob math o fynyddoedd a beicio i fyny'r mynyddoedd heb trydan."

Hynny ydy, o'ch chi'n berson heini.

"Ie, rili heini."

Dros nos, daeth bywyd Sian Griffiths o Landegfan i stop.

Yn dal Covid ar ôl gweithio mewn ysbyty yn y gogledd y gobaith oedd gwella fel y mwyafrif ond ddigwyddodd hynny ddim.

A'r symptomau'n dwyshau.

"I ddechrau, o'n i ddim yn rhy ddrwg. Tagu, gwres, dim yn medru bwyta lot, blinder.

"Doedd e ddim yn rhy ddrwg i gymharu efo pobl eraill.

"Ar ôl pythefnos roedd calon fi'n mynd rhy uchel wrth fynd i fyny grisiau.

"Pen ysgafn a ddim yn medru cerdded. Dw i'n byw pum munud rownd y gornel o dŷ Mam a Dad ac o'n i'n stryglo i gerdded am bum munud."

Sut mae'ch bywyd wedi newid o gymharu a phum mlynedd yn ôl?

"Dw i wedi cael diagnosis o PoTS syndrom ers 2021 episodic migraines, pre-diabetic. Lot o bethau fel 'na."

Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae naddu llwybr at wella wedi arwain Sian at drio bob math o bethau gwahanol.

Nofio gwyllt yn lleddfu rhai symptomau am gyfnod byr.

Mymryn o seibiant ydy hynny o'r boen barhaol sy'n golygu hefyd nad oes modd iddi weithio.

"Wnaethon nhw ddeud bod fi'n gorfod cael ill-health retirement a dw i 'di cael hwnna ers 2023."

Sut deimlad ydy hynny?

"Ofnadwy, rili. Siomedig a dw i'n flin hefo pethau fel 'na achos dw i wedi cael fy magu i weithio."

Sut mae'ch cyflwr wedi cael effaith ar y teulu sy'n gefnogaeth enfawr?

"Maen nhw'n wneud y bwyd i fi a checkio bod fi'n iawn. Mae Dad yn gyrru fi i apwyntiadau, felly, maen nhw fel carers."

Mae ymchwil Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod 94,000 o bobl Cymru yn byw gyda Covid Hir.

Mae'n gymhleth a gwreiddiau'r symptomau dal yn annelwig. Yr awgrym yw bod y salwch yn costio £2 filiwn i'r GIG y flwyddyn a 5,000 o bobl yn sal o'u gwaith ar unrhyw ddiwrnod.

Mae Sian yn amau'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl fel hi.

"S’dim digon o bres yn mynd i fewn. "Mae'r Llywodraeth yn deud bod nhw'n rhoi pres i fewn fel adferiad.

"Dydy hwn ddim jyst i Long Covid, mae ar gyfer pethau eraill. Dw i'n nabod pobl eraill o Sir Fôn sy 'di talu i fynd i Stoke i weld y PoTS consultant yn fan 'na.”

"Sut mae bywyd wedi newid o 2020 i rwan."

Mae'n hollol wahanol.

"Hollol, hollol wahanol.

"Dw i wedi colli swydd a dim yn medru gwneud be dw i eisiau gwneud."

Pum mlynedd wedi'r pandemiga dydy creithiau'r salwch i Sian a miloedd fel hi heb bylu dim a'r boen yn fyw o hyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.