Newyddion S4C

'Un cam ar y tro': Cymru yn cychwyn ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2026 yn erbyn Kazakhstan

Craig Bellamy
Craig Bellamy

Mae Craig Bellamy wedi dweud y bydd Cymru yn cymryd eu hymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 "un cam ar y tro" wrth iddyn nhw chwarae eu gêm gyntaf yn erbyn Kazakhstan ddydd Sadwrn.

Dyma fydd gêm gyntaf Bellamy wrth y llyw ar gyfer ymgyrch i gyrraedd prif gystadleuaeth.

Hyd yma nid yw'r crysau cochion wedi colli dan arweiniad Bellamy ac mae nifer yn disgwyl i hynny barhau yn erbyn Kazakhstan, sydd yn safle 110 ar restr detholion y byd.

Nid yw tîm dynion Cymru erioed wedi chwarae yn erbyn Kazakhstan o'r blaen.

Nid yw Bellamy yn disgwyl gêm hawdd, ac fe fydd ef a'i garfan yn cymryd pob gêm un ar y tro, meddai.

"Mae'r garfan hon yn gallu cyflawni llawer, maen nhw wedi profi hynny ac wedi cyflawni o'r blaen," meddai.

"Mae hyn yn helpu oherwydd mae ganddyn nhw'r profiad o gyrraedd prif gystadleuaeth.

"Dwi eisiau i'r grŵp yma ennill ond dydw i ddim yn gallu edrych i'r dyfodol gormod.

"Dwi'n gwybod bod pobl eisiau i fi wneud hynny, ond os dwi'n bod yn realistig, un cam ar y tro fydd hi."

Profiad

Fe fydd Cymru heb rhai o'u chwaraewyr profiadol ar gyfer eu gemau agoriadol yn erbyn Kazakhstan a Gogledd Macedonia yn Skopje nos Fawrth.

Mae anafiadau yn golygu bod Aaron Ramsey, Ethan Ampadu a Harry Wilson yn colli allan.

Ond mae Dan James wedi ei gynnwys yn y garfan am yr eildro yn unig dan Bellamy, wedi iddo fethu rhai o gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn yr hydref.

Image
Dan James
Bydd Dan James yn gobeithio chwarae yn ei drydydd gêm dan Craig Bellamy nos Sadwrn (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Mae'n gobeithio y gall carfan Cymru ddysgu o'u profiad o ymgyrchoedd y gorffennol ar gyfer yr ymgyrch hon.

“Dwi'n credu bod yna ddisgwyliad mawr bob amser, ac mae’r disgwyliad hwnnw yno nawr,” esboniodd James. 

“Rydyn ni’n gwybod beth sy’n rhaid i ni ei wneud i gyrraedd Cwpan y Byd, rydyn ni wedi bod yno o’r blaen ac mae’n rhaid i ni gymryd y profiad yna a'i ddefnyddio ar gyfer yr ymgyrch.

“Dyw e byth yn hawdd, mae’n anodd iawn. Rydyn ni’n mynd i fynd i lefydd anodd iawn hefyd ac rydyn ni’n gwybod beth sy’n rhaid i ni ei wneud.

"Rydyn ni’n credu ein bod ni’n ddigon da, ond rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni fynd i ddangos hynny ar y cae.”

Dyma garfan llawn Cymru: Danny Ward (Leicester City), Karl Darlow (Leeds United), Adam Davies (Sheffield United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Joe Rodon (Leeds United), Chris Mepham (Sunderland- Ar fenthyg o Bournemouth), Ben Cabango (Abertawe), Connor Roberts (Burnley), Neco Williams (Nottingham Forest), Jay Dasilva (Coventry City), Tom Lawrence (Rangers), Joe Allen (Abertawe), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Stade Rennais), Ollie Cooper (Abertawe), Kai Andrews (Motherwell - ar fenthyg o Coventry City), Sorba Thomas (Nantes - ar fenthyg o Huddersfield Town), David Brooks (Bournemouth), Kieffer Moore (Sheffield United), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Daniel James (Leeds United), Liam Cullen (Abertawe), Nathan Broadhead (Ipswich Town), Mark Harris (Oxford United), Lewis Koumas (Stoke City - ar fenthyg o Liverpool), Rabbi Matondo (Hannover 96 - ar fenthyg o Rangers). 

Fe allwch chi wylio Cymru yn erbyn Kazakhstan ar S4C, S4C Clic neu BBC iPlayer am 19:20 nos Sadwrn.

Prif lun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.