Newyddion S4C

Y Bala: Cyngor Gwynedd yn gwerthu Neuadd Buddug ar y farchnad agored

Neuadd Buddug

Mae Cyngor Gwynedd yn y broses o werthu Neuadd Buddug, Y Bala, ar y farchnad agored, gan dderbyn y cynigion ‘gorau a therfynol’.

Roedd Neuadd Buddug yn arfer cael ei defnyddio fel theatr a sinema yn yr ardal am flynyddoedd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i brynu'r adeilad yw 27 Mawrth.

Fe gaeodd y neuadd ei drysau am y tro olaf ddiwedd Rhagfyr 2018, er gwaethaf apêl i'w chadw ar agor gan bobl leol.

Mae’r sinema bellach wedi ei throsglwyddo i Theatr Derek Williams yn Ysgol Godre’r Berwyn.

Roedd galw mawr i’r neuadd gael ei throsglwyddo i ddwylo’r gymuned, ac roedd yr ymgyrch yn cael ei harwain gan yr awdures Clare Mackintosh.

Cafodd deiseb ei chreu gyda bron i 1,000 o lofnodion yn galw am ei chadw i bobl leol ei rhedeg.

Dywedodd Cyngor Gwynedd wrth y BBC yn 2023 fod cyfle wedi ei rhoi i'r gymuned i gyflwyno cynllun busnes i gael cyfrifoldeb am y neuadd, ond nad oedd hynny wedi digwydd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.