'Ddim digon da': Barn Syr Jim Ratcliffe am chwaraewyr Manchester United
Dyw rhai o chwaraewyr Manchester United “ddim yn ddigon da” ac mae rhai yn cael eu “talu gormod” medd un o gyd berchnogion y clwb.
Mewn cyfweliad gyda’r BBC dywedodd Syr Jim Ratcliffe hefyd ei fod yn gresynu bod nhw yn dal i dalu am rhai chwaraewyr sydd ddim bellach efo’r clwb.
Soniodd am Jadon Sancho sydd bellach ar fenthyg gyda Chelsea ond eu bod dal yn gorfod talu £17 miliwn amdano'r haf hwn.
Dywedodd Syr Jim hefyd eu bod wedi gorfod cyflwyno “newidiadau anodd” am fod sefyllfa ariannol y clwb mor ddifrifol.
Yn eu plith roedd codi prisiau rhai tocynnau, diswyddiadau a rhoi stop ar gynnig cinio am ddim i staff.
Dyw’r newidiadau ddim wedi bod yn boblogaidd gyda rhai cefnogwyr.
“Rydyn ni yn y broses o newid ac mae’n gyfnod anghyfforddus ac aflonydd ac mi ydw i yn cydymdeimlo gyda’r cefnogwyr,” meddai.
“Yr ateb syml yw bydd y clwb yn rhedeg allan o arian Nadolig os na wnawn ni'r pethau hyn.”
Ei fwriad, meddai, yw gwneud Manchester United y clwb mwyaf “proffidiol yn y byd”.
Er bod United wedi colli naw o’i 26 o gemau o dan ei hyfforddwr newydd Ruben Amorim, mae gan Syr Jim ffydd y bydd yn parhau gyda’r clwb am “amser hir”.
Fe wnaeth Amorim ymuno gyda United ym mis Tachwedd. Ers hynny, mae llu o anafiadau wedi bod ymhlith y tîm.
“Os ydw i yn edrych ar y garfan sydd ar gael i Ruben, dw i’n meddwl ei fod yn gwneud yn dda iawn i fod yn onest,” meddai.
“Dwi’n credu fod Ruben yn rheolwr ifanc arbennig. Dw i wir yn credu hynny. Mae’n rheolwr gwych a dwi’n credu y bydd e yma am amser hir.”
Llun: PA