Cyflwyno cronfa gwerth £1 miliwn i 'drawsnewid Afon Gwy'
Bydd cronfa newydd gwerth £1 miliwn yn "trawsnewid" yr Afon Gwy meddai Llywodraeth Cymru.
Ar y cyd gyda Llywodraeth y DU bydd y gronfa yn mynd i'r afael â llygredd yn yr afon ac ansawdd y dŵr.
Fe wnaeth Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies a'r Gweinidog Dŵr, Emma Hardy gwrdd ddydd Llun er mwyn trafod y camau i fynd i'r afael â llygredd lleol.
Mae'r afon, sydd yn rhedeg am 130 o filltiroedd, yn cychwyn ym Mhumlumon yng Ngheredigion ac yn llifo i'r Afon Hafren.
Bydd y gronfa yn:
• Ymchwilio i ffynonellau'r llygredd a'r pwysau sy'n effeithio ar yr afon
• Astudio effeithiau newid arferion ffermio a rheoli tir
• Datblygu a phrofi ffyrdd newydd o wella ansawdd dŵr
• Archwilio beth sy'n gyrru dirywiad bywyd gwyllt a llif dŵr – y symudiad a'r dŵr sy'n hanfodol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau
'Adfer ein hafonydd'
Bydd ffermwyr lleol, grwpiau amgylcheddol â'r cyhoedd yn chwarae "rhan hanfodol" wrth gasglu tystiolaeth a llunio'r blaenoriaethau ymchwil.
Hefyd fe fydd yna gydweithio agos gyda sefydliadau gan gynnwys Partneriaeth Dalgylch Afon Gwy, y Bwrdd Rheoli Maetholion, a sefydliadau ffermio.
"Mae hyn yn gam pwysig i amddiffyn Afon Gwy, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda'n gilydd i adfer ein hafonydd," meddai Huw Irranca-Davies.
"Bydd y cyllid ymchwil hwn yn cefnogi adferiad natur ac arferion ffermio cynaliadwy i wella'r amgylchedd lleol.
"Drwy ddod ag arbenigedd o ddwy ochr y ffin ynghyd a gweithio'n agos a grwpiau lleol, gallwn ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu'r afon a dod o hyd i'r atebion fydd yn gwneud gwahaniaeth."
Dywedodd y Gweinidog Dŵr yn Llywodraeth San Steffan, Emma Hardy bod yr Afon Gwy wedi dioddef "llygredd eithafol" am gyfnod rhy hir. Nawr bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng y ddwy lywodraeth meddai.
Ychwanegodd y byddan nhw'n gwneud yn siŵr bod yr ymchwil yma yn golygu wedyn "gweithredu go iawn".