Newyddion S4C

Sefyllfa ieithoedd modern yng Nghymru yn 'drychinebus'

Newyddion S4C

Sefyllfa ieithoedd modern yng Nghymru yn 'drychinebus'

Mae sefyllfa ieithoedd modern yng Nghymru yn "drychinebus" erbyn hyn - dyna rybudd gan gyn gyfarwyddwr CILT Cymru, canolfan oedd yn hybu defnydd ieithoedd tramor yng Nghymru. 

Roedd Ceri James yn ymateb wedi’r newyddion y gallai’r cwrs ieithoedd modern ym Mhrifysgol Caerdydd ddiflannu’n gyfan gwbl.

Mae’n un o’r adrannau allai gael ei chau wrth i’r Brifysgol ymgynghori ar gynlluniau i geisio arbed arian a thorri tua 400 o swyddi.

Mae Mr James wedi bod yn rhybuddio ers blynyddoedd am effaith y toriadau ym maes dysgu ieithoedd modern mewn ysgolion. 

“Fel pwnc, mae’r sefyllfa'n drychinebus nawr, dwi ddim yn gweld sut all pethe fynd lot yn waeth heb ddiflannu’n llwyr," meddai.

“Mae’n rhwystredig iawn, dyw hwn ddim yn newyddion newydd, ma hwn wedi bod yn digwydd ers degawdau. Roedd 'na bolisi mewn lle, ”Ieithoedd sy’n cyfri” alle fod wedi gwella pethe petai’r llywodraeth wedi parhau gyda fe. 

"Mae isie agwedd mwy positif tuag at ieithoedd tramor, a sylweddoli taw nid y pynciau craidd yn unig sy’n bwysig."

Mae’r newyddion y gallai’r cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd ddod i ben, yn cael ei weld fel ergyd bellach.

Image
Arwydd Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd
Arwydd Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd

'Trasiedi'

Roedd yr awdur, Bethan Gwanas yn athrawes Ffrangeg ar un adeg, ac mae hi’n feirniadol iawn o benderfyniad Prifysgol Caerdydd i gau’r adran ieithoedd Modern.

"Dwi’n mynd am y gair trasiedi. Mae’n torri ‘nghalon i. Nes i astudio Ffrangeg flynyddoedd yn ol, yn fy ugeiniau a dyna’r peth gore nes i yn fy myw. 

"Nid yn unig ti’n dysgu gymaint yn rhan o’r cwrs, dysgu iaith arall ond mae’n sgil anhygoel. A ma' pobl y wlad hon wedi anghofio pa mor bwysig yw dysgu iaith arall, achos mae’n agor gymaint o ddryse.

" Tase  nhw’n stopio fe yng Nghaerdydd o bob man, mi fase fe’n warth ac yn chwerthinllyd yn fy marn i."

Image
Bethan Gwanas
Bethan Gwanas

Prifysgol Caerdydd sy'n darparu'n nifer fwyaf o gyrsiau ieithoedd modern israddedig yng Nghymru. 

Mae'r brifysgol yn dweud eu bod nhw'n dal i ymgynghori ar y syniad o gau’r adran ar hyn o bryd, ac nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud.

"Mae’n bwysig i ni bwysleisio mai cynigon yw’r rhain ar hyn o bryd, mae ffordd bell i fynd cyn gwneud penderfyniad terfynol. Yn y tymor byr, fydd yr argymhellion ddim yn effeithio ar fyfyrwyr ieithoedd modern a’u gallu i gwblhau eu hastudiaethau," meddai llefarydd ar ran y brifysgol.

Ond mae'r sefyllfa'n pryderu'r myfyrwyr presennol, a chyn fyfyrwyr. 

Mae Lucie Williams yn astudio Ffrangeg ac Eidaleg yn ei phedwaredd flwyddyn: "Dwi’n meddwl bod cwrs fel hyn yn neud i bobl ddeall diwylliannau gwahanol y byd, ieithoedd gwahanol y byd," meddai.

"Ni angen deall ein gilydd i allu gweithio efo’n gilydd yn fyd eang a rŵan mae Cymru, wel Caerdydd yn dweud wrtho ni bod dwyieithyrwydd neu bod un iaith yn ddigon, a 'di o ddim."

Yn ôl Laura Jones, Cyfieithydd Ffrangeg a Sbaeneg, fu’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ystod eang o gyrsiau ar gael yn yr Ysgol Ieithoedd Modern:  "Mae’r Ysgol ieithoedd fodern yng Nghaerdydd yn neud lot yng Nghaerdydd, ar wahan i ddysgu ieithoedd i fyfyrwyr. 

"Ma' nhw’n cynnig cyrsiau ieithoedd yn y nos i oedolion. Ma' nhw’n cynnig saith iaith i gyd, gan gynnwys Portiwgaleg a Siapaneaidd, a petai nhw’n cau’r adran fydde’r ieithoedd yna’n diflannu o Gymru a byddai’n siom enfawr."

Fe fyddai’r toriadau’n golygu mai Cymru fyddai'r unig wlad ddatblygiedig heb gwrs ieithoedd modern yn ei phrifddinas. 

Wrth ymateb i’r feirniadaeth ynglyn â’r diffyg cyfleoedd i ddysgu iaith fodern yn yr ysgol gynradd, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru

"Mae dysgu iaith ryngwladol yn yr ysgol gynradd yn orfodol a gall pob dysgwr ddysgu o leiaf un iaith ryngwladol.

"Mae cyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd yn gam pwysig i ddatblygu dysgwyr iaith y dyfodol. 

"Rydym hefyd yn cynnig cymhellion ariannol i ddenu mwy o fyfyrwyr i ddod yn athrawon ieithoedd rhyngwladol ac yn ariannu teithiau cyfnewid rhyngwladol ar gyfer dysgu drwy ein rhaglen Taith."

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.